John Jones, Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 5:
Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, [[Dolwyddelan]], ar [[1 Mawrth]], yn ddisgynydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac [[Angharad James]] o [[Cwm Penamnen|Gwm Penamnen]]. Ganwyd mae'n debyg yn [[1796]], er bod ei fywgraffydd yn cofnodi amheuaeth ynglyn â ai yn [[1796]] eu [[1797]] yr oedd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ac 'roedd yn uniaith Gymraeg.
 
Tua [[1820]], ac yntau'n ddyn ifanc, 'roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd [[Thomas Telford]] rhwng [[Capel Curig]] a [[Llyn Ogwen]] - sef yr [[A5]] presennol. Tua'r un adeg, 'roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau [[Moel Siabod]], yn myfyrio ac ystyried pregethu.
 
[[Delwedd:Fannyjonestalysarn.jpg|bawd|chwith|150px|Mrs Fanny Jones, Talysarn]]
Llinell 14:
Bu i nifer o'i frodyr a'i chwiorydd, ynghyd a nifer eraill o Ddolwyddelan a'r ardal, ymfudo i [[Wisconsin]], gan ymsefydlu yn bennaf o gwmpas pentref [[Cambria (Wisconsin)|Cambria]], ac ymddengys iddo yntau ystyried ymuno â hwy yn [[America]]. Ond yng Nghymru arhosodd John a Fanny Jones, a chael tri-ar-ddeg o blant.
Bu farw ar [[16 Awst]], [[1857]], ac fe'i gladdwyd ym mynwent eglwys Llanllyfni. Yn gorymdeithio gyda'r cynhebrwng oedd 8 o feddygon, 65 o weinidogion a phregethwyr, 70 o flaenoriaid, 200 o gantorion a chantoresau ac oeddeutu 4,000 o feibion ac o ferchod, a'r niferoedd yn tyfu ar y ffordd gan efallai 2,000 arall. Bu farw Fanny, ei wraig, ar [[1 Awst]], [[1877]].
 
==Arddull ei Waith==
Llinell 57:
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Pobl o Ddolwyddelan]]
 
{{Authority control}}