Kaloyan, tsar Bwlgaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 28 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q294439 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
Tsar [[Bwlgaria]] o [[1197]] hyd [[1207]] oedd '''Kaloyan, tsar Bwlgaria'''. Roedd yn drydydd teyrn [[Ail Deyrnas Bwlgaria]], ar ôl ei frodyr, [[Ivan Asen I]] a [[Pedr II]].
 
Daeth â sefydlogrwydd i'r deyrnas, oedd wedi cael ei rhyddhau o reolaeth Bysantaidd ychydig o flynyddoed ynghynt. Arweiniodd gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn Byzantium, gan gipio [[Varna]] ar ôl gwarchae tridiau ar [[24 Mawrth]] [[1201]]. Gwelir ei bolisi gwrth-Bysantaidd hefyd yn ei berthnasoedd â'r Eglwys Orllewinol. Cyrhaeddodd cennad o'r [[Pab Innocent III]] Fwlgaria ym [[1204]]. Coronwyd Kaloyan ganddo fel brenin Bwlgaria a Wallachia, ac eneinio [[Archesgob Vasily o Tarnovo]] fel pennaeth eglwys y Bwlgariaid a'r Vlachiaid. Cydnabu Kaloyan oruchafiaeth Eglwys Rhufain. Ar ôl i [[Caergystennin|Gaergystennin]] gael ei meddiannu gan Groesgadwyr [[y Bedwaredd Groesgad]] ym [[1204]], cymerodd Kaloyan reolaeth dros [[Adrianopolis]], dinas Roeg nad oedd wedi cwymo i'r Croesgadwyr. Amddifynnodd Kaloyan y ddinas yn llwyddiannus, gan drechu'r Croesgadwyr mewn brwydr ger y ddinas ar [[14 Ebrill]] [[1205]]. Daliodd y lluoedd Bwlgariadd yr [[Baldwin, Ymerawdr Lladin|Ymerawdr Baldwin I]], a fu farw ar [[11 Mehefin]] mewn dalfa yn [[Veliko Tarnovo]].
 
Enillodd Kaloyan fuddugoliaethau eraill yn erbyn yr [[Ymerodraeth Ladin]], gan gipio [[Serres]] a [[Philippopolis]] ([[Plovdiv]]) a thiriogaeth arall yn [[Thracia]] a [[Macedonia (rhanbarth)|Macedonia]]. Llofruddiwyd Kaloyan gan aelodau o'i fyddin ei hun yn ystod [[gwachae Thessaloniki]] ym mis Hydref [[1207]].
Llinell 7:
[[Categori:Teyrnoedd Bwlgaria]]
[[Categori:Marwolaethau 1207]]
 
{{Authority control}}