Kim Jong-il: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 2:
Roedd '''Kim Jong-il''' (dyddiad geni swyddogol - [[16 Chwefror]], [[1941]] – [[17 Rhagfyr]] [[2011]]; dyddiad geni anwswyddogol - 16 Chwefror [[1941]]) yn arweinydd unbenaethol [[Gogledd Corea]]. Yn swyddogol, fe'i ganwyd yn [[Siberia]], yn yr hen [[Undeb Sofietaidd]] lle bu ei dad yn alltud. Caiff ei enw ei sgwennu hefyd fel '''Kim Jong Il''', a'i enw personol oedd '''Yuri Irsenovich Kim'''. Mae'r fersiwn swyddogol yn datgan iddo gael ei eni ar gopa [[Mynydd Baekdu]] pan ymddangosodd enfys ddwbwl.
 
Mab ac olynydd y cyn arweinydd [[Kim Il-sung]] ydoedd. Ychydig sy'n bysbys am ei fywyd preifat gan fod llywodraeth y wlad mor gyfrinachol. Fel mab ac "etifedd" yr arweinyddiaeth ymddengys iddo gael mabolaeth breintiedig a chafodd enw am fod yn dipyn o dderyn (neu "''playboy''") a wisgai sgidiau platfform er mwyn edrych yn dalach. Galwyd Jong-il "Yr Arweinydd Annwyl" yn swyddogol ("Yr Arweinydd Mawr" oedd ei dad). Dywedir ei fod yn 5'2", yn yfed [[cognac]] Hennessey ac yn perchen 20,000 o [[ffilm]]iau; ymhlith ei ffefrynnau roedd ffilmiau [[James Bond]].
 
Wedi i'w dad farw yn [[1994]] llwyddodd Jong-il i aros mewn grym ac yn [[1997]] cafodd ei enwi'n ysgrifennydd [[Plaid Gomiwnyddol Gogledd Corea]]. Erbyn hynny roedd y wlad yn fwy ynysig nag erioed, yr economi yn llanast a'r werin yn marw o newyn wrth eu miloedd. Roedd yn weithiwr caled a gwell oedd ganddo weithio drwy'r nos ar ei liwt ei hun, yn hytrach na chael cyfarfodydd di-ben-draw drwy'r dydd.
Llinell 15:
==Ffynhonnell==
{{Cyfeiriadau}}
 
{{eginyn Corea}}
 
[[Categori:Arweinyddion Gogledd Corea]]
Llinell 23 ⟶ 21:
[[Categori:Pobl fu farw o drawiad ar y galon]]
[[Categori:Unbeniaid]]
 
 
{{eginyn Corea}}
 
{{Authority control}}