Llyfr Aneirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wicidestun
Awdurdod
Llinell 4:
Llawysgrif [[memrwn|femrwn]] 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.<ref>Disgrifiad [[John Gwenogvryn Evans]], dyfynwyd gan Ifor Williams yn ''Canu Aneirin'', tud. xii.</ref>
 
Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd [[Dafydd Nanmor]] (fl. 1450-80) o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] a [[Gwilym Tew]] (fl. 1460-80) o [[Morgannwg|Forgannwg]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell [[Hengwrt]], [[Meirionnydd]], lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] yn yr [[17eg ganrif]]. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i [[Aberdâr]] ac yna i feddiant yr hanesydd [[Theophilus Jones]] ac wedyn i [[Carnhuanawc]]. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i [[Llyfrgell Ganolog Caerdydd|Lyfrgell Dinas Caerdydd]] lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).
 
Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r ''Gododdin'', ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y ''Gododdin'' ei hun, yn cynnwys yr [[hwiangerdd]] unigryw ''Pais Dinogad''; [[marwnad]] i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron; penillion [[gwireb]]ol ''Gorchan Addefon'' a ''Gorchan Maeldderw'' a briodolir i'r bardd [[Taliesin]] a ganai yn yr [[Hen Ogledd]] yn yr un ganrif ag Aneirin.
Llinell 34:
[[Categori:Llyfrau'r 1260au]]
[[Categori:Yr Hengerdd]]
 
{{Authority control}}