Llyfr y Tri Aderyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 8:
Mae'r "[[666]]" yn bwysig. Nôd y [[Diafol]] ydyw ac roedd Morgan Llwyd a nifer eraill o'r [[Piwritaniaid]] yn credu fod diwedd y byd a dechrau ail-deyrnasiad [[Crist]] wrth law. Roedd yr awdur yn weithgar yn [[Plaid y Bumed Frenhiniaeth|Mhlaid y Bumed Brenhiniaeth]], a gredai fod Crist am ddychwelyd i'r ddaear i fod yn Frenin arni, ac mae ôl syniadau gwleidyddol y blaid honno i'w gweld yn ei waith.
 
Llyfr [[alegori|alegorïol]] iawn sydd â sawl haen o ystyr yw ''Llyfr y Tri Aderyn''. Mae ar ffurf ymddiddan rhwng tri aderyn, yr [[Eryr]], y [[Cigfran|Gigfran]] a'r [[Colomen|Golomen]]. Yr ystyr amlycaf i'r tri aderyn hyn yw bod yr Eryr yn cynrychioli'r [[gwladwriaeth|Wladwriaeth]] ym mherson [[Oliver Cromwell]], y Gigfran yr [[Eglwys Loegr|Eglwys sefydledig]] a'r Golomen y Piwritaniaid. Ar y lefel yma mae'r llyfr yn ymwneud â gwleidyddiaeth y dydd a'r berthynas rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth.
 
Ond ceir ystyr dyfnach yn ogystal. Daeth Morgan Llwyd dan ddylanwad y [[cyfriniaeth|cyfrinydd]] [[Martin Luther|Lutheraidd]] [[Jakob Böhme]]. Yn ei lyfr ''Mercurius Teutonicus'' (a gyhoeddwyd yn Saesneg yn [[1648]]), ceir y Golomen a'r Gigfran, lle mae'r Gigfran yn cynrychioli y dyn daearol, bydol, a'r Golomen yn cynrychioli "plant Duw". Ond mae'n dweud hefyd fod y Gigfran yn sefyll am "Ddeddf lym" [[Moses]] tra bod y Golomen yn sefyll am Efengyl Crist yn ei phurdeb.
Llinell 31:
[[Categori:Morgan Llwyd]]
[[Categori:Cyfriniaeth]]
 
{{Authority control}}