Manic Street Preachers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 22:
Band [[Cerddoriaeth roc|roc]] o'r [[Y Coed Duon|Coed Duon]] yn Ne [[Cymru]] yw '''Manic Street Preachers'''. Ffurfiwyd y band - yn wreiddiol o'r enw 'Betty Blue'{{ffaith}} - yn [[Ysgol Gyfun Oakdale]], [[1986]], gan ffrindiau [[James Dean Bradfield]], [[Sean Moore]], [[Nicky Wire]] a Flicker (Miles Woodward). Ym 1988, gadawodd Flicker y grŵp am resymau cerddorol.
 
Ar ôl recordio'r sengl 'Suicide Alley' fel triawd, fe ymunodd gitarydd newydd, [[Richey Edwards]], â'r grŵp. Er nad oedd Edwards yn gallu chwarae'r gitâr yn dda iawn, ei brif gyfraniad oedd ysgrifennu'r geiriau gyda Nicky Wire.
 
Ar ôl rhyddhau tri albwm rhwng 1992 a 1994, roedd y band yn dechrau poeni am iechyd Richey Edwards; roedd yn camddefnyddio alcohol, hunan-anafu ag yn dioddef o anorecsia.{{ffaith}} Fe ddiflannodd Richey Edwards o'i westy yn Llundain ar y 1 Chwefror [[1995]]. Darganfuwyd ei gar yn ymyl [[Pont Hafren]] ond nid oes neb wedi'i weld ers iddo ddiflannu.
 
Bron iddynt orffen y grŵp ar ôl i Edwards adael, ond ail-ffurfiwyd y band fel triawd unwaith eto. Ar ôl diflaniad Edwards, aeth y band ymlaen i fwynhau llwyddiant masnachol ar sgìl llawer mwy nac yr oeddent wedi cyflawni yn eu blynyddoedd cynnar. Maent wedi rhyddhau naw albwm arall, gan gynnwys ''Everything Must Go'' (1996), ''This Is My Truth Tell Me Yours'' (1998) a aeth i #1 yn y siartiau Prydeinig yn [[1998]], ''Lifeblood'' (2004), a ''Send Away The Tigers'' (2007).
Llinell 135:
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/enwogion/adloniant/pages/manic_street_preachers.shtml Manic Street Preachers], BBC Cymru
* {{eicon en}} [http://www.myspace.com/manics Tudalen MySpace swyddogol]
 
{{eginyn Cerddoriaeth Cymru}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
 
[[Categori:Bandiau Cymreig]]
 
 
{{eginyn Cerddoriaeth Cymru}}
 
{{Authority control}}