Marged uch Ifan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Awdurdod
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Dywedir ei bod yn wreiddiol o Dalymignedd Uchaf, [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], lle roedd yn cadw tafarn y Talernia islaw i Dyrpeg y Gelli.<ref>[http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#10 Gwefan www.nantlle.com; adalwyd 24 Medi 2013]</ref> Symudodd wedyn i fyw ym Mwthyn Penllyn ger [[Llyn Padarn]], lle roedd yn ennill bywoliaeth trwy gludo mwyn [[copr]] o fwyngloddiau [[Nant Peris]] mewn cwch i ben isa'r llyn ger [[Brynrefail]]. Ceir llawer o wybodaeth amdani gan [[Thomas Pennant (awdur)|Thomas Pennant]], a ymwelodd a'i thŷ ar ei daith trwy Gymru yn 1786, dim ond i ddarganfod ei bod oddi cartref ar y pryd. Roedd yn enwog fel helwraig, a dywedid ei bod hi a'i chŵn yn dal mwy o lwynogod mewn blwyddyn nag y gallai neb arall eu dal mewn deng mlynedd. Roedd yn enwog am ei nerth, a dywedid ei bod yn medru ymaflyd codwm ag unrhyw un hyd yn oed pan oedd yn 70 oed. Adroddir i un o'r mwynwyr copr, dyn mawr cryf, gamdrin un o'i chŵn unwaith, ac i Marged roi dyrnod iddo a'i tarawodd yn anymwybodol, a dywedai'r rhai a'i gwelodd y byddai un ddyrnod arall debyg wedi ei ladd.
 
Ceir côf am ei gallu i ganu'r delyn yn yr hen bennill adnabyddus (gyda nifer o fersiynau ychydig yn wahanol):
Llinell 16:
:A'r llall i dorri esgyrn pobol.
 
Dywedir iddi gyfansoddi naw o donau telyn, yn cynnwys "Megan a gollodd ei gardas" a "Merch Megan", y rhai a werthfawrogid gan delynorion yr ardal.<ref name="Wmffre Dafydd 1862">Wmffre Dafydd, 'Margred Uch Ifan', yn y gyfrol ''Cymru Fu'' (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1862).</ref>
 
Enw ei gŵr oedd William ab Rhisiard. Credir iddi gael ei chladdu ym mynwent [[Nant Peris]]. Yn ôl traddodiad roedd hi'n 102 oed pan fu farw. Roedd hi "heb fod awr yn ei gwely erioed oherwydd afiechyd. Bu ei hoff forwyn farw ychydig o'i blaen, wedi ei gwasanaethu am ddeugain a dwy o flynyddau."<ref> name="Wmffre Dafydd, 'Margred Uch Ifan', yn y gyfrol ''Cymru Fu'' (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1862).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 33:
[[Categori:Pobl o Arfon]]
[[Categori:Telynorion Cymreig]]
 
{{Authority control}}