Michael D. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
gweler hefyd
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Michael Daniel Jones (1822-1898).jpg|bawd|dde|300px|Michael D. Jones]]
 
Arloeswr a [[Cenedlaetholdeb Cymreig|chenedlaetholwr Cymreig]] o [[Y Bala|'r Bala]] oedd '''Michael Daniel Jones''' (cyn [[2 Mawrth]] [[1822]] – [[2 Rhagfyr]] [[1898]]). Fe sefydlodd Y [[Wladfa]] ym [[Patagonia|Mhatagonia]].
 
==Bywgraffiad==
Llinell 18:
 
=== Y Ddeddf Foesol ===
Tant y mae'n ei daro'n gyson trwy'r blynyddoedd yw mai un ddeddf foesol sydd. Gwrthodai'r ddysgeidiaeth fod un rheol ar gyfer unigolion yn eu bywyd preifat, a rheol wahanol iddynt yn eu bywyd cyhoeddus. Yr un safonau moesol sy'n clymu unigolion a chenhedloedd. Wrth iddo ddatblygu'r thema hon yn ei ysgrifau y gwelir gliriaf ei ddibyniaeth ar oraclau proffwydi'r Hen Destament yn erbyn Israel. Un o ganlyniadau cymryd y safbwynt hwn oedd condemnio deddfau seneddol nad oeddent yn parchu'r deddf foesol – fel deddfau gorfodaeth Iwerddon. “Nid cyfraith”, meddai, “yw sylfaen moesoldeb, ond dylai moesau pawb fod wedi eu sylfaenu ar foesoldeb tragwyddol a digyfnewid, ac nid ar gyfreithiau y gellir eu newid yn ôl mympwyon dynion.”
 
Canlyniad arall yr argyhoeddiad hwn oedd ei ymosodiadau niferus ar y rhagrith oedd yn gwreiddiol yn y gred fod moesoldeb cyhoeddus yn wahanol i foesoldeb preifat. “Mae gan y Seison ddwy reol bywyd, un i bersonau unigol, ac un arall hollol wahanol i'r Llywodraeth.” ... Yr un ymateb sydd ganddo i'r cynnwrf poblogaidd ynglyn ag erchyllterau “Sion y Rhwygwr” (Jack the Ripper) ym 1888. Beth yw'r gwahaniaeth moesol rhwng erchyllterau Sion y Rhwygwr yn Llundain a thrais y llywodraeth yn Iwerddon? ... Na! - i Jones yn y Beibl “un rheol o foesoldeb” sydd i genhedloedd ac unigolion ac y mae'r Deg Gorchymyn i'w cymhwyso at genhedloedd hefyd.
Llinell 70:
[[Categori:Y Wladfa]]
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]]
 
{{Authority control}}