Mithridates VI, brenin Pontus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 42 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q185126 (translate me)
Awdurdod
Llinell 7:
Uchelgais Mithridates oedd cael rheolaeth dros y cyfan o ardal y [[Môr Du]] ac [[Anatolia]]. Concrodd [[Colchis]], a gorchfygodd y [[Scythia]]id a’u gorfodi i’w gydnabod fel arglwydd. Cytunodd i rannu [[Paphlagonia]] a [[Galatia]] gyda [[Nicomedes III]], brenin [[Bithynia]]. Yn ddiweddarach aeth yn rhyfel rhwng Mithridates a Nicomedes ynghylch [[Cappadocia]], ac wedi i Mithridates ei orchfygu mewn nifer o frwydrau, gofynnodd Nicomedes am gymorth Rhufain.
 
Parhaodd yr ymladd dan frenin nesaf Bithynia, [[Nicomedes IV]], a choncrodd Mithridates Bithynia ac ymestyn ei awdurdod hyd y [[Propontis]]. Cafodd gefnogaeth y dinasoedd Groegaidd, yn cynnwys [[Athen]], yn erbyn Rhufain. Gwnaeth gynghrair a [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]], a briododd Cleopatra, merch Mithridates.
 
Yn [[88 CC]], gorchymynodd Mithridates ladd pob Rhufeiniwr yng ngorllewin Anatolia; dywedir i 80,000 o wyr, gwragedd a phlant gael eu lladd. Ymladdwyd rhyfel rhwng Mithridates a Rhufain rhwng [[88 CC]] and [[84 CC]], a gorfododd y cadfridog Rhufeinig [[Lucius Cornelius Sulla]] Mithridates i encilio o [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]]. Fodd bynnag, roedd [[Gaius Marius]] wedi cipio grym yn Rhufain, a gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates er mwyn medru dychwelyd i Rhufain.
Llinell 15:
Pan geisiodd Rhufain feddiannu Bithynia,ymosododd Mithridates, a bu rhyfel arall rhwng [[83 CC]] a [[82 CC]], gyda’r cadfridogion [[Lucullus]] ac yna [[Gnaeus Pompeius Magnus]] yn ymladd yn erbyn Mithridates. Ni orchfygwyd Mithridates yn derfynol hyd y trydydd rhyfel, rhwng [[75 CC]] a [[65 CC]], pan orchfygwyd ef gan Pompeius a’i orfodi i ffoi i’r [[Crimea]]. Ceisiodd godi byddin arall i ymladd yn erbyn Rhufain, ond bradychwyd ef gan ei fab, a lladdodd ei hun yn [[Panticapaeum]]. Enwyd dinas [[Eupatoria]] yn y Crimea ar ei ol.
 
Ceir nifer o hanesion am Mithridates. Dywed [[Plinius yr Hynaf]] ei fod yn medru siarad iaith bob un o’r ddwy genedl ar hugain oedd dan ei awdurdod. I osgoi’r perygl o gael ei wenwyno, dywedir iddo ddechrau cymeryd ychydig o wenwyn a chynyddu’r dôs yn raddol, nes nad oedd unrhyw wenwyn yn cael effaith arno.
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|fi}}
Llinell 24:
[[Categori:Brenhinoedd]]
[[Categori:Yr Henfyd]]
 
{{Authority control}}