Osbert Fynes-Clinton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegiad llyfryddiaethol
Awdurdod
Llinell 1:
Un o [[tafodieitheg|dafodieithegwyr]] cynnar y [[Cymraeg|Gymraeg]] oedd '''Osbert Henry Fynes-Clinton''' ([[1869]] - [[1941]]). Hanodd Fynes-Clinton o [[Manceinion|Fanceinion]], yn fab i reithor Barlow Moor ger [[Didsbury]]. Cafodd ei addysg yng [[Coleg Sant Ioan, Rhydychen|Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen]], lle astudiodd ieithoedd modern. Bu'n athro [[Ffrangeg]] yn [[King Edward's School]], Aston, [[Birmingham]] tan [[1904]], pryd penodwyd yn athro Ffrangeg yng [[Coleg Prifysgol Gogledd Cymru|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], Bangor. Arhosodd yn ardal [[Bangor]] hyd ei farwolaeth yn [[1941]], ac roedd ei ddiddordeb yn [[Tafodiaith|nhafodiaith]] yr ardal yn dyddio o'r adeg honno.
 
Ei brif waith yw geiriadur [[tafodiaith Bangor]] a'r cylch ''The Welsh vocabulary of the Bangor district'' a gyhoeddwyd yn [[1913]]. Roedd wedi'i seilio ar waith maes ar y dafodiaith honno, sy'n perthyn i'r [[Y Wyndodeg|Wyndodeg]], a gyflawnwyd rhwng [[1904]] a [[1912]]. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y dafodiaith leol a anwyd rhwng [[1835]] a [[1859]] o [[Bangor|Fangor]], [[Pentir]], [[Abergwyngregyn|Aber]] a [[Llanfairfechan]]. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg [[tafodieitheg]] y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.
Llinell 11:
[[Categori:Marwolaethau 1941|Fynes-Clinton, Osbert]]
[[Categori:Tafodieithegwyr|Fynes-Clinton, Osbert]]
 
{{Authority control}}