Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 6:
[[Delwedd:Coat of arms of Wales.svg|bawd|chwith|170px|Arfbais Teyrnas Gwynedd yng nghyfnod y ddau Lywelyn. Roedd ystum y llewod wedi ei newid erbyn cyfnod Owain Lawgoch]]
 
Lladdwyd [[Llywelyn yr Ail]] ym mis Rhagfyr [[1282]], a dienyddiwyd ei frawd [[Dafydd ap Gruffudd]] yn [[1283]]. Carcharwyd plant y ddau i gyd am oes gan frenin Lloegr, [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]]. Roedd brawd arall, [[Owain Goch ap Gruffudd|Owain Goch]], yn ôl pob tebyg eisoes wedi marw, gan adael un brawd ar ôl, [[Rhodri ap Gruffudd]]. Nid oedd ef wedi cymeryd unrhyw ran yn llywodraeth [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], ac wedi gwerthu ei hawl ar ran o'r deyrnas i'w frawd Llywelyn tua [[1270]], ac wedi symud i fyw i Loegr.
 
Tua 1302 aeth Rhodri i [[Tatsfield]], Surrey i fyw wedi iddo briodi Catherine. Mae Tatsfield oddeutu 18 milltir o ganol Llundain ac mae rhai enwau llefydd Cymraeg yn dal i fodoli yn y pentre bychan e.e. Maesmaur Road).
 
[[Thomas ap Rhodri]] oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, a [[Gruffudd de la Pole]], o deulu hen dywysogion [[Powys Wenwynwyn]], yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn [[Swydd Gaer]] a Tatsfield yn [[Surrey]], ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gaer am diroedd yn Bidfield, [[Swydd Gaerloyw]] a Dinas ym [[Mechain Is Coed]] (gogledd [[Powys]]). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth [[Llŷn]], fel etifedd ei ewythr [[Owain Goch]], ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.
Llinell 22:
Roedd brenhinllin Lloegr o Ffrainc yn wreiddiol, ac roedd y brenhinoedd Angevin yn dal tiroedd eang yn [[Normandi]], [[Maine (Ffrainc)|Maine]], [[Anjou]], [[Touraine]], [[Poitou]], [[Gasgwyn]], [[Saintonge]] ac [[Aquitaine]], gan ffurfio'r [[ymerodraeth Angevin]]. Yn raddol, collwyd llawer o'r tiroedd hyn yn ystod y cyfnod rhwng [[1214]] a [[1324]]. Yn [[1328]], bu farw [[Siarl IV, brenin Ffrainc]], heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd [[Edward III, brenin Lloegr]] ymhlith y rhai oedd yn hawlio gorsedd Ffrainc, ond penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni [[Philip VI, brenin Ffrainc|Philip o Valois]], oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois.
 
Ym 1337, cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc, a dechreuosdd y rhyfel. Ym mis Gorffennaf [[1346]], ymosododd Edward III ar Ffrainc, ac yn fuan wedyn enillodd fuddugoliaeth dros y Ffrancwyr ym [[Brwydr Crécy|Mrwydr Crécy]]. Y prif reswm dros y fuddugoliaeth oedd effeithiolrwydd y [[bwa hir]].
 
Yn [[1348]], effeithiwyd ar Ewrop gan [[y Pla Du]], a chymerodd rai blynyddoedd cyn i'r teyrnasoedd fedru adfer eu nerth. Yn [[1356]], ymosododd [[Edward, y Tywysog Du]], mab Edward III, ar Ffrainc, ac enillodd fuddugoliaeth fawr arall ym [[Brwydr Poitiers (1356)|Mrwydr Poitiers]], eto yn bennaf oherwydd defnydd y bwa hir. Cymerwyd brenin Ffrainc, [[Jean II, brenin Ffrainc|Jean II]], yn garcharor. Yn ddiweddarch y flwyddyn honno rhoddodd Cytundeb Llundain diriogaeth [[Aquitaine]] i Loegr yn gyfnewid am ei ryddid.
Llinell 40:
[[Delwedd:Les Très Riches Heures du duc de Berry septembre.jpg|bawd|190px|Castell [[Saumur]], a fu yng ngofal Owain yn 1370.]]
 
Cafodd Owain gymorth Siarl V yn ei ymdrechion i hawlio coron Cymru. Gwnaeth ei ymdrech gyntaf yn niwedd [[1369]], pan dalodd Siarl i gasglu llynges yn [[Harfleur]] i hwylio am Gymru gan arweiniad Owain. Hwyliodd y llongau ychydig cyn y Nadolig, ond gorfodwyd hwy i ddychwelyd i'r porthladd oherwydd stormydd.
 
Yn [[1370]] roedd Owain yn gwasanaethu gyda [[Bertrand du Guesclin]] yn [[Maine]] ac [[Anjou]], ac yn geidwad castell [[Saumur]] ar [[afon Loire]]. Yn mis Gorffennaf [[1371]] roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref [[Metz]], ac ym mis Rhagfyr cofnodir eu bod yn symud trwy ran ogleddol [[Bwrgwyn]].<ref>Carr ''Owain Lawgoch:yr etifedd olaf'' t.8</ref>
 
Ym mis Mai [[1372]] cyhoeddodd yn ninas [[Paris]] ei fod yn hawlio coron Cymru. Cafodd fenthyg arian gan Siarl V, a hwyliodd i ymosod ar Frenin Lloegr. Ymosododd ar [[Ynys y Garn]] (Guernsey) i ddechrau, ac roedd yn dal yno pan gyrhaeddodd neges gan Siarl yn rhoi gorchymyn iddo roi'r gorau i'r ymgyrch a hwylio i [[Teyrnas Castilla|Castile]] i gasglu mwy o longau er mwyn ymosod ar y Saeson yn [[La Rochelle]]. Ym [[Brwydr La Rochelle|Mrwydr La Rochelle]], cafodd y llynges Sbaenig a Ffrengig fuddugoliaeth dros y llynges Seisnig. Yn fuan wedyn, gorchfygodd Owain fyddin o Saeson a Gascwyniaid yn Soubise, gan gymeryd Syr Thomas Percy a [[Jean III de Grailly|Jean de Grailly]], y Captal de Buch, yn garcharorion.<ref>Carr ''Owen of Wales'' tt. 35-6</ref> Ildiodd garsiwn Seisnig La Rochelle yn gynnar ym mis Medi; dywed un cronicl iddynt wrthod ildio i Owain, a mynnu cael ildio i frodyr Siarl V, [[Louis I, Dug Anjou|Dug Anjou]] a Dug Berry.<ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 37</ref>
Llinell 67:
[[Delwedd:ReconquCharlesV.png|bawd|240px|chwith|Enillodd y Ffrancwyr lawer o diriogaeth oddi ar y Saeson yn nghyfnod Owain.]]
 
Erbyn hyn roedd Heddwch Bruges rhwng Ffrainc a Lloegr bron a dod i ben; roedd yn gorffen yn swyddogol yn 1377, ond roedd paratoadau ar gyfer ail-ddechrau'r ymladd eisoes ar y gweill erbyn dechrau 1376. Yn nechrau mis Mawrth, cofnodir cyflogi Owain a'i gwmni o un marchog a 98 esgweier, a chasglwyd ei gwmni ar ei gilydd yn [[Rheims]] ar [[20 Ebrill]]. Roedd Owain a'i gwmni yn awr yn gwasanaethu dan [[Louis de Sancerre]], Marsial Ffrainc. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, roeddynt yn [[Limoges]].<ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 49</ref>
 
Yn 1377, bu Owain yn ymladd yn [[Périgord]] dan Ddug Anjou, du Guesclin a Louis de Sancerre. Ym mis Awst y flwyddyn honno, roeddynt yn gwarchae ar [[Bergerac (Dordogne)|Bergerac]]. Daeth Syr Thomas Felton gyda byddin Seisnig i geisio codi'r gwarchae, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Ffrengig, gydag Owain yn un o'i harweinwyr. Cymerwyd Felton, oedd yn ddistain [[Bordeaux]], yn garcharor. Ildiodd Bergerac, a chipiodd y Ffrancwyr nifer o drefi eraill yn y misoedd nesaf.<ref>Carr ''Owen of Wales'' tt. 51-53</ref> Yr un flwyddyn, yn Llundain, dienyddiwyd marchog o Sais, Syr John Minsterworth, am [[Teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]] oherwydd ei fod wedi cynllwynio gydag Owain.
Llinell 77:
[[Delwedd:Mortagne.jpg|bawd|200px|chwith|Mortagne heddiw]]
 
Tra'r oedd Owain yn gwarchae ar Mortagne, cyrhaeddodd gŵr o'r enw [[John Lamb]] yno. Roedd wedi cyrraedd Llydaw, gan ddweud ei fod wedi dod o Gymru gyda neges i Owain, a hebryngwyd ef i Mortagne. Mewn gwirionedd, roedd yn asiant cudd yn nhâl y Saeson. Dywed rhai cofnodion mai Albanwr ydoedd, ond dywed Froissart iddo siarad "yn ei iaith ei hun" ag Owain, h.y. ymddengys fod y ddau'n siarad Cymraeg.
 
Enillodd ymddiriedaeth Owain, a'i gwnaeth yn siambrlen iddo. Ymddengys ei fod yn arferiad gan Owain gribo'i wallt yn y bore dan edrych ar gastell Mortagne. Un bore, roedd wedi gyrru Lamb i gyrchu ei grib gwallt, a phan ddychwelodd Lamb, trywanodd Owain, nad oedd yn gwisgo llurig ar y pryd. Ffôdd Lamb i gastell Mortagne, lle mynegodd ceidwad y castell, y Syndic de Latrau, ei ddirmyg o'i weithred:
Llinell 113:
Gorchymynodd y dieithryn i Dafydd dyllu o dan y llwyn lle cafodd y ffon, a daeth grisiau i'r golwg, yn arwain i lawr i ogof. Yn yr ogof roedd dyn saith troedfedd o daldra a chanddo law goch yn cysgu. Dywedodd y dieithryn wrth Dafydd mai Owain Lawgoch ydoedd, "sy'n cysgu hyd yr amser penodedig; a phan ddeffry bydd yn frenin y Brythoniaid".<ref>John Rhys ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' tt. 464-5</ref>
 
Ceir chwedl debyg o [[Sir Gaerfyrddin]], lle dywedir fod Owain a'i wŷr yn cysgu yn Ogo'r Ddinas, ychydig i'r gogledd o dref [[Llandybïe]].<ref>John Rhys ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' tt. 467-9</ref> Ar un adeg, gelwid llyn chwarel [[Aberllefenni]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yn Llyn Owain Lawgoch, ac mae hanesyn yn ei gysylltu a'r plasdy cyfagos, Plas Aberllefenni.<ref>Cofnodir yr hanes yn J.Arthur Williams ''Trem Yn Ol''</ref>
 
[[Delwedd:Castle Cornet Guernsey.jpg|bawd|200px|Caestell Cornet at Ynys y Garn; castell y bu Owain yn gwarchae arno]]
Llinell 156:
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
 
{{Authority control}}