Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
Etifedd teyrnas [[Powys Wenwynwyn]] ac un o arglwyddi'r gororau oedd '''Owain ap Gruffydd ap Gwenwynwyn''' neu '''Owen de la Pole''' (tua [[1257]] - tua [[1293]]).
 
Roedd Owain yn fab i [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], tywysgog Powys Wenwynwyn. Ganed ef yn LLoegr wedi i'w dad gael ei yrru o'i deyrnas gan [[Llywelyn ap Gruffudd]] yn [[1257]]. Efallai tua'r adeg yma, mabwysiadodd y teulu yn cyfenw ''de la Pole'', o "Poole", hen enw [[Y Trallwng]] ("Welshpool" yn Saesneg yn awr). Yn [[1263]], dan delerau [[Cytundeb Trefaldwyn]], dychwelwyd y rhan fwyaf o'r diroedd i dad Owain, ar yr amod ei fod yn gwrogi i Lywelyn. Fodd bynnag, yn [[1274]] roedd Owain a'i dad mewn cynllwyn i lofruddio Llywelyn, a ffoesant i Loegr eto.
 
Dan delerau [[Cytundeb Aberconwy]], dychwelwyd ei diroedd i Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yn 1284, wedi marwolaeth Llywelyn, ymddengys i'r teulu ildio eu hawl i dywysogaeth Powys Wenwynwyn i [[Edward I, brenin Lloegr]], a'i derbyn yn ôl ganddo fel un o arglwyddiaethau'r gororau.
 
Bu farw Gruffudd tua [[1286]], a daeth Owain yn Arglwydd Powys. Roedd yn briod a [[Joan Corbet]], a chwsant ferch ac, yn ôl pob tebyg, bum mab. Ar ei farwolaeth tua 1293, aeth yr arglwyddiaeth i'w fab, [[Gruffudd de la Pole|Gruffudd]] neu Griffith, ac phan fu ef farw yn ddiblant yn [[1309]], aeth i'w ferch Hawise.
Llinell 14:
[[Categori:Cymry'r 13eg ganrif]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
 
{{Authority control}}