Tomen y Mur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas [[77]] neu [[78]] OC. yn ystod ymgyrchoedd [[Agricola]] yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr [[Hadrian]], tua [[120]] OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, [[Maentwrog]]. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr ail ganrif. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys [[amffitheatr]] fechan. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig [[Sarn Helen]], a gellr gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd.
 
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y castell, castell mwnt a beili yn yr arddull Normanaidd. Tomen y castell sydd wedi rhoi ei enw i'r safle. Credir ei fod yn dyddio o ran olaf yr [[11eg ganrif]], ac efallai fod ganddo gysylltiad â'r ymladd rhwng y Normaniaid a [[Gruffudd ap Cynan]] am reolaeth ar [[TerynasTeyrnas Gwynedd|Wynedd]].