Perdiccas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 28 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q202113 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
Cadfridog [[Macedon]]aidd dan [[Alecsander Fawr]], ac yn ddiweddarach rheolwr teyrnas Macedon, oedd '''Perdiccas''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Περδίκας'', ''Perdikas'' (bu farw [[321 CC]] neu [[320 CC]]).
 
Yn ôl yr hanesydd [[Arrian]] roedd yn fab i Orontes. Daeth i sylw yn ystod concwest [[Thebai]] yn [[335 CC]], pan glwyfwyd ef yn ddifrifol. Roedd yn bennaeth rhan o'r fyddin yn ystod ymgyrchoedd Alecsander yn India, a phan fu farw [[Hephaestion]] yn [[324 CC]] penodwyd ef yn bennaeth marchogion y Cymdeithion.
 
Wedi marwolaeth Alecsander, yn [[Rhaniad Babilon]], cytunodd cadfridogion Alecsander i dderbyn
[[Philip III, brenin Macedon|Philip III]], hanner brawd Alecsander, yn frenin, ar y cyd a phlentyn gweddw Alecsander, [[Roxana]], oedd heb ei eni eto. Penodwyd Perdiccas i reoli'r deyrnas ar eu rhan.
 
Cymerodd [[Meleager (cadfridog)|Meleager]], pennaeth y gwŷr traed, i'r ddalfa a'i ladd. Yn [[322 CC]], torrodd ei ddyweddïad a Nicaea, merch [[Antipater]], pan gynigiodd mam Alecsander, [[Olympias]], iddo briodi ei merch [[Cleopatra o Facedonia|Cleopatra]], chwaer Alecsander. Cyn hir bu rhyfel rhwng Perdiccas a'i gyngheiriad [[Eumenes]] ar un ochr, ac [[Antigonus]], Antipater, [[Craterus]] a [[Ptolemi I Soter|Ptolemi]] ar yr ochr arall.
Llinell 13:
[[Categori:Alecsander Fawr]]
[[Categori:Macedon]]
 
{{Authority control}}