Tomen y Mur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu fymryn
Llinell 3:
Saif Tomen y Mur ym mhen draw lôn fechan sy'n arwain i'r dwyrain oddi ar y briffordd [[A470]] rhyw chwarter milltir i'r de o'r gyffordd gyda'r [[A487]], i'r de-ddwyrain o bentref [[Gellilydan]] ac i'r gogledd o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]].
 
Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas [[77]] neu [[78]] OC. yn ystod ymgyrchoedd [[Agricola]] yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr [[Hadrian]], tua [[120]] OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, [[Maentwrog]]. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr ail ganrif. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys [[amffitheatr]] fechan, baddondy a ''mansio'', gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig [[Sarn Helen]], a gellr gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd.
 
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y castell, [[castell mwnt a beili]] yn yr arddull Normanaidd. Tomen y castell sydd wedi rhoi ei enw i'r safle; mae wedi ei adeiladu o fewn y gaer Rufeinig fel bod muriau'r gaer yn ffurfio'r beili. Credir ei fod yn dyddio o ran olaf yr [[11eg ganrif]], ac efallai fod ganddo gysylltiad â'r ymladd rhwng y Normaniaid a [[Gruffudd ap Cynan]] am reolaeth ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]]. Gwyddir i [[William II, brenin Lloegr]] fod ar ymgyrch yma yn [[1095]].