Rhodri Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
'''Rhodri Mawr''', enw llawn '''Rhodri ap Merfyn''' (c. [[820]]–[[878]]) oedd y [[brenin]] cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o [[Cymru|Gymru]] a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".
 
Yr oedd Rhodri yn fab i [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ar farwolaeth ei dad yn [[844]], a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr [[Cyngen]], brenin [[Teyrnas Powys|Powys]], farw ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]] yn [[855]], etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn [[872]] boddwyd trwy ddamwain [[Gwgon ap Meurig]], brenin [[Teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] a [[Seisyllwg]], ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Yr oedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.
Llinell 7:
Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym [[Brwydr Parciau|Mrwydr Parciau]] yn 872.
 
Yn [[877]] ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i [[Iwerddon]]. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan [[Mercia|wŷr Mersia]], er na wyddir y manylion. Pan enillodd ei fab [[Anarawd ap Rhodri]] fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i dathlwyd yn y [[brut]]iau fel "Dial Duw am Rhodri".
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 38:
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
 
{{Authority control}}