Robert E. Lee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 52 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q165557 (translate me) |
Awdurdod |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Robert Edward Lee.jpg|bawd|200px|Robert E. Lee]]
'''Robert Edward Lee''', a adwaenir fel '''Robert E. Lee''', ([[19 Ionawr]] [[1807]] - [[12 Hydref]] [[1870]]), oedd y cadfridog amlycaf ar ochr [[Taleithiau Cydffederal America|y De Cydffederal]] yn [[Rhyfel Cartref America]].
Ganed Lee yn [[Swydd Westmoreland, Virginia|Swydd Westmoreland]], [[Virginia]], yn fab i [[Henry Lee III]] "Light Horse Harry" (1756–1818), Llywodraethwr Virginia, a'i ail wraig, Anne Hill Carter (1773–1829). Aeth i ysgol filwrol West Point, lle roedd yn un o'r myfyrwyr disgeiriaf. Erbyn i'r Rhyfel Cartref ddechrau, ystyrid ef yn un o filwyr galluocaf yr Unol Daleithiau, ac yn gynnar yn [[1861]], cynigiodd yr Arlywydd [[Abraham Lincoln]] ei wneud yn bennaeth ar fyddin yr Undeb. Gwrthododd Lee, gan fod talaith Virginia ymhlith y taleithiau oedd wedi gadael yr Undeb, a'i fod yn teimlo fod rhaid iddo ddilyn ei dalaith.
Daeth yn brif gynghorydd i [[Jefferson Davis]], Arlywydd y De, yna ym mis Mehefin [[1862]] daeth yn arweinydd lluoedd y De yn y dwyrain, byddin a ail-enwodd Lee yn "Fyddin Gogledd Virginia". Enillodd nifer o fuddugoliaethau pwysig dros fyddinoedd yr Undeb, yn arbennig [[Brwydrau'r Saith Diwrnod]], [[Ail Frwydr Bull Run]], [[Brwydr Fredericksburg]] a [[Brwydr Chancellorsville]]. Pan geisiodd ymosod ar y Gogledd, bu'n llai llwyddiannus; bu raid iddo ddychwelyd i'r de wedi [[Brwydr Antietam]] yn 1862, a gorchfygwyd ef ym [[Brwydr Gettysburg|Mrwydr Gettysburg]] yn [[1863]] gan [[George Meade]].
Yng ngwanwyn [[1864]], dechreuodd pennaeth newydd byddinoedd yr Undeb, [[Ulysses S. Grant]], gyfres o ymgyrchoedd yn erbyn byddin Lee. Er fod golledion Grant yn llawer mwy na rhai Lee yn y brwydrau a ddilynodd, gallai'r Undeb ddod a milwyr newydd i'r maes yn eu lle, tra'r oedd adnoddau'r de bron ar ben. Bu raid i Lee ildio i Grant yn Appomattox Courthouse ar [[9 Ebrill]] [[1865]].
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
Llinell 20:
[[Categori:Rhyfel Cartref America]]
[[Categori:Taleithiau Cydffederal America]]
{{Authority control}}
|