Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sefnyn"

Lleihawyd o 55 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
(tacluso, categoriau)
(Awdurdod)
Un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif oedd '''Sefnyn''' (bu farw yn y [[1380au]], efallai). Mae'n bur debygol ei fod yn frodor o [[Ynys Môn]] ac yn dad i'r bardd [[Gwilym ap Sefnyn]].<ref name="ReferenceA">Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn'.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair [[awdl]] i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw [[William Salesbury]], a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o [[Llanbabo|lan Pabo]] ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf [[Llandyfrydog]] hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i [[Goronwy ap Tudur Fychan]], un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn [[Arllechwedd Uchaf]].<ref>Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerddi==
Dim ond tair [[awdl]] o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a [[Trefeilir|Threfeilir]], a'r llall i [[Goronwy ap Tudur Fychan]] o [[Penmynydd|Benmynydd]] a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-[[marwnad|farwnad]] ganddo i'r bardd [[Iorwerth ab y Cyriog]], fab y bardd [[Gronw Gyriog]]. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion. Mae'n bosibl hefyd mai Iorwerth oedd [[athro barddol]] Sefnyn.<ref>Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn'.<name="ReferenceA"/ref>
 
Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn [[Llyfr Coch Hergest]]: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.<ref>Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1380au]]
 
{{Authority control}}
418,588

golygiad