Stephen Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 47:
Chwaraewr [[Rygbi'r Undeb]] i dîm rhanbarthol [[Scarlets Llanelli]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Chymru]] yw '''Stephen Michael Jones''' (ganed [[8 Rhagfyr]] [[1977]]. Mae'n chwarae fel maswr.
 
Ganed ef yn [[Aberystwyth]]. Ymunodd â [[Clwb Rygbi Llanelli|Chlwb Rygbi Llanelli]] yn [[1996]], gan symud i [[Sgarlets|Scarlets Llanelli]] pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol. Symudodd i [[ASM Clermont Auvergne|Clermont Auvergne]] yn 2004, gan ddychwelyd at y Scarlets yn 2006.
 
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] yn [[1998]]. Mae wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru na neb heblaw [[Neil Jenkins]].
 
Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd [[y Gamp Lawn]] yn [[2005]], yn cynnwys sgorio 14 pwynt yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym [[Paris|Mharis]] ac 19 pwynt yn erbyn Iwerddon. Dewiswyd ef ar gyfer taith [[Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig|y Llewod]] i [[Seland Newydd]] yn 2005, ond [[Jonny Wilkinson]] gafodd ei ddewis ar gyfer y gemau prawf, penderfyniad a feirniadwyd gan lawer.
 
Yn hydref 2006 cyhoeddodd yr hyfforddwr [[Gareth Jenkins]] mai ef fyddai'n gapten Cymru yn y gemau'n arwain at Gwpan Rygbi'r Byd yn 2007. Erbyn hyn roedd yn wynebu cystadleuaeth gan [[James Hook (chwaraewr rygbi)|James Hook]] am safle maswr yn y tîm, ac er iddo chwarae rhan ymhob un o'r gemau pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008, dim ond yn erbyn Iwerddon y dechreuodd y gêm.
Llinell 62:
[[Categori:Scarlets Llanelli]]
[[Categori:Pobl o Aberystwyth]]
 
{{Authority control}}