Swleiman I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 86 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q8474 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
[[Swltan]] [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] o [[1520]] hyd ei farwolaeth oedd '''Kanuni Sultan Swleiman I''', hefyd '''Swleiman y Godidog''' ([[6 Tachwedd]] [[1494]] – [[6 Medi]] [[1566]]).
 
Ganed ef yn [[Trabzon]], yn fab i'r Swltan [[Selim I]]. Wedi iddo ddilyn ei dad ar yr orsedd, ymgymerodd a chyfres o ymgyrchoedd milwrol, gan ymestyn ei ffiniau i gynnwys [[y Balcanau]] a rhan o'r [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Yn [[1522]], cipiodd ynys [[Rhodos]] oddi ar Farchogion yr Ysbyty. Yn [[1526]], gorchfygodd frenin [[Hwngari]] a'i ladd ym Mrwydr Mohács, gyda'r canlyniad fod Hwngari'n ymrannu'n dair rhan. Bu'n gwarchae ar ddinas [[Fienna]] yn [[1529]] a [[1532]], ond heb lwyddiant, ac yn [[1533]] gwnaeth gytundeb heddwch a'r Archddug Ferdinand.
 
Yn y dwyrain, bu'n ymladd yn erbyn rheolwyr [[Saffafid]] [[Iran|Persia]]. Cipiodd ddinas Baghdad oddi wrthynt yn [[1534]]. Cipiodd lawer o diriogaeth yng Ngogledd Affrica hefyd, gan eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau ar fyddinoedd yr ymerawdwr [[Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Siarl V]]. Un o gadfridogion Swleiman yn yr ymgyrchoedd hyn oedd [[Khair-ed-din Barbarossa]].
Llinell 18:
[[Categori:Genedigaethau 1494]]
[[Categori:Marwolaethau 1566]]
 
{{Authority control}}