T. F. O'Rahilly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Awdurdod
Llinell 1:
Ysgolhaig Celtaidd o [[Iwerddon]] oedd '''Thomas Francis O'Rahilly''' neu '''Tomás Proinsias Ó Rathaile''' ([[1883]] – [[1953]]), yn ysgrifennu fel '''T. F. O'Rahilly'''.
 
Ganed ef yn [[Listowel]], [[Swydd Kerry]]. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, a bu'n Athro [[Gwyddeleg]] yng [[Coleg y Drindod, Dulyn|Ngholeg y Drindod, Dulyn]] o 1919 hyd 1929, yna'n Athro Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Corc o 1929 hyd 1935 a Choleg Prifysgol Dulyn o 1935 hyd 1941, cyn dod yn gyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies o 1942 hyd 1947.
 
Mae O'Rahilly yn fwyaf adnabyddus am ei syniadau ynghylch hen hanes Iwerddon. Cyhoeddodd ''Early Irish history and mythology'' yn 1946, gan gynnig y syniad o bedair symudiad o fewnfudwyr Celtaidd i Iwerddon. Y cyntaf o'r rhain oedd y [[Cruithne]] neu Priteni (c. 700 – 500 CC), oedd yn siarad iaith [[Ieithoedd Brythonaidd|Frythonig]].
 
Roedd ei chwaer, [[Cecile O'Rahilly]], hefyd yn ysgolhaig Celtaidd.
Llinell 13:
[[Categori:Ysgolheigion Celtaidd]]
[[Categori:Ysgolheigion Gwyddelig]]
 
{{Authority control}}