Tewdrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Yn ôl hanesyn a geir yn ''[[Llyfr Llandaf]]'' ([[12fed ganrif]]), roedd Tewdrig yn fab i naill ai i Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i [[clas|glas]] [[Eglwys Gadeiriol Llandaf|Llandaf]]. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn [[Abaty Tyndyrn|Nhyndyrn]] ac fe'i olynwyd gan ei fab, [[Meurig ap Tewdrig|Meurig]], tad [[Athrwys ap Meurig]].<ref name="The Llandaff Charters 1979">[[Wendy Davies]], ''The Llandaff Charters'' (Aberystwyth, 1979).</ref>
 
Ond pan groesodd y Sacsoniaid [[Afon Hafren]] dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "[[pagan]]iaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angeuol. Cafodd ei gludo ar gert ych i'r clas ar [[Ynys Echni]], ym [[Môr Hafren]], ond ar y ffordd arosodd yr ychen wrth ffynnon wyrthiol a enwir yn Ffynnon Tewdrig hyd heddiw. Yno cafodd ei glwyfau eu golchi a bu farw mewn hedd. Yng nghalendr yr Eglwys coffheir ei farw ar [[3 Ionawr]].<ref>[[Wendy Davies]], ''name="The Llandaff Charters'' (Aberystwyth, 1979).<"/ref>
 
==Cof==
Cododd y brenin Meurig eglwys yn y man a chladdodd ei dad yno a rhoi'r tir o amgylch i [[Esgob Llandaf|Esgobion Llandaf]]. Galwyd y llecyn yn [[Merthyr Tewdrig]] (pentref ar lan [[afon Gwy]] heddiw). Ond mae rhai haneswyr yn meddwl mai ger [[Caerfaddon]] yr ymladdwyd y frwydr ac i Dewdrig gael ei gladdu ar ei ffordd adref.<ref>[[Wendy Davies]], ''name="The Llandaff Charters'' (Aberystwyth, 1979).<"/ref>
 
Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor yn Eglwys Merthyr Tewdrig gan [[Francis Godwin]], [[Esgob Llandaf]] 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.<ref>[[Wendy Davies]], ''name="The Llandaff Charters'' (Aberystwyth, 1979).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 22:
[[Categori:Teyrnoedd Morgannwg]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwent]]
 
{{Authority control}}