Thasuka Witco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Llyfryddiaeth: Man olygu using AWB
Awdurdod
Llinell 1:
Pennaeth pobl frodorol y [[Lakota (pobl)|Lakota]] (rhan o'r [[Sioux]]) oedd '''Thasuka Witco''', ([[Lakota (iaith)|Lakota]]: '''''Thašųka Witko'''''), [[Saesneg]]: '''Crazy Horse''' ([[1840]] - [[5 Medi]] [[1877]]). Bu'n ymladd llawer yn erbyn llywodraeth yr [[Unol Daleithiau]] er mwyn amddiffyn tiriogaeth y Sioux.
 
Ymladdodd nifer o frwydrau yn erbyn byddin yr Unol Daleithiau, yn arbennig yn ystod [[Rhyfel Mawr y Sioux]] 1876-77. Roedd yn un o'r prif arweinyddion ym [[Brwydr Little Big Horn|Mrwydr Little Big Horn]], pan orchfygwyd y Cadfridog [[George Armstrong Custer|George A. Custer]] a'i ŵyr o'r [[Seithfed Farchoglu]] ar ôl iddyn nhw, gydag unedau eraill, ymosod yn ddirybudd ar bentref mawr y Sioux a'u cynghreiriaid.
 
Ar [[5 Mai]] [[1877]], gyda'i bobl wedi eu gwanhau gan newyn ag oerni, bu raid iddo ildio i'r fyddin yn Camp Robinson, [[Nebraska]]. Bu'n byw yn y "Red Cloud Agency" am rai misoedd, ond ar [[5 Medi]] ceisiodd y fyddin ei gymryd i'r ddalfa. Wrth iddo geisio gwrthwynebu hyn, trywanwyd ef, a bu farw'r noson honno.
 
Ar hyn o bryd mae gwaith yn parhau ar Gofeb Crazy Horse yn y [[Black Hills]], [[De Dakota]], gwaith a ddechreuwyd gan [[Korczak Ziółkowski]] ym [[1948]]. Pan orffennir y cerflun, bydd yn 641 troedfedd (195 m.) o led a 563 troedfedd (172 m.) o uchder - y gerfddelw fwyaf yn y byd.
 
== Cymeriad Thasuka Witco ==
Llinell 25:
[[Categori:Sioux]]
[[Categori:Brodorion Gogledd America]]
 
{{Authority control}}