Theodosius I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 64 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q46696 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Theodosius.jpg|thumb|right|200px|Llun dychmygol o Theodosius I]]
 
Roedd '''Flavius Theodosius''' ([[11 Ionawr]], [[347]] - [[17 Ionawr]], [[395]]), a elwir hefyd yn '''Theodosius I''' a '''Theodosius Fawr''', yn [[Ymerawdwr Rhufain]] rhwng [[379]] a 395. Ad-unodd rannau dwyreiniol a gorllewinol yr ymerodraeth, ac ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
 
Ganed Theodosius yn Cauca ([[Coca, Segovia|Coca]] heddiw) yn [[Sbaen]]. Roedd ei dad, hefyd o'r enw Theodosius, yn swyddog uchel yn y fyddin. Aeth Theodosius y mab gyda'i dad i Brydain yn [[368]], ac yna gwnaed ef yn reolwr milwrol (''[[dux]]'') talaith [[Moesia]] ar [[Afon Donaw]] yn [[374]]. Yn fuan wedyn dienyddiwyd ei dad, a dychwelodd Theodosius i Cauca.
 
O [[375]] ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: [[Valens]], [[Valentinian II]] a [[Gratian]]. Pan laddwyd [[Valens]] ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] yn [[378]], penododd Gratian Theodosius yn ei le fel ''cyd-augustus'' yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn [[383]], a chyhoeddodd [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr [[Eidal]]. Yn [[387]] ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosius ef a'i ladd.
 
Bu farw Valentinian II yn [[392]], gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Cyhoeddodd y
''[[magister militum]]'' [[Arbogast (cadfridog)|Arbogast]] gyd-ymerawdwr newydd, [[Eugenius]], yn lle Valentinian. Ceisiodd Eugenius adfer paganiaeth, ond gorchfygwyd ef gan Theodosius ym mrwydr Frigidus.
 
Priododd Theodosius ddwywaith. Gan ei wraig gyntaf, [[Aelia Flaccilla]], cafodd ddau fab, [[Arcadius]] a [[Flavius Augustus Honorius|Honorius]] a merch, Pulcheria. Wedi marwolaeth Aelia Flaccilla yn [[385]], priododd [[Galla (gwraig Theodosius)|Galla]], merch [[Valentinian I]], a chawsant ferch, [[Galla Placidia]], mam yr ymerawdwr [[Valentinian III]]. Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain.
Llinell 18:
 
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
 
{{Authority control}}