Thomas Assheton Smith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Thomas Assheton-Smith.jpeg|thumb|right|Thomas Assheton Smith]]
Roedd '''Thomas Assheton Smith''' ([[1752]] - [[12 Mai]] [[1828]]) yn dirfeddiannwr a fu a rhan bwysig yn natblygiad [[diwydiant llechi Cymru]].
 
Roedd Smith yn fab i Thomas Assheton o Ashley yn [[Swydd Gaer]] yn [[Lloegr]]. Ychwanegodd y "Smith" at ei gyfenw pan etifeddodd ystadau [[Y Faenol]] a [[Tedworth]] oddi wrth ei ewythr, William Smith. Bu'n [[Uchel Siryf]] [[Sir Gaernarfon]] yn 1783-4 ac yn [[Aelod Seneddol]] y sir o 1774 hyd 1780. Yn 1806 perswadiodd y Senedd i basio mesur yn cau tir comin plwyf [[Llanddeiniolen]], gan ychwanegu'n fawr at ei diroedd. Yn 1809 cymerodd reolaeth y chwareli llechi ar ei dir i'w ddwylo ei hun, gan ffurfio cwmni o bedwar, gydag ef ei hun yn Llywydd. Yn ddiweddarach dadgorfforwyd y cwmni a daeth ef yn gyfrifol am y busnes ar ei ben ei hun. Erbyn 1826 roedd [[Chwarel Dinorwig]] yn cyflogi 800 o ddynion ac yn cynhyrchu 20,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Datblygodd Assheton Smith borthladd yn [[Y Felinheli]] dan yr enw ''Port Dinorwic'' i allforio'r llechi o'r chwarel.
 
Priododd Assheton Smith ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas. Bu farw yn Tedworth yn 1828, ac etifeddwyd ystad [[y Faenol]] gan ei ail fab, yntau hefyd yn Thomas Assheton Smith (1776-1858).
Llinell 14:
[[Categori:Diwydiant llechi Cymru]]
[[Categori:Pobl o Swydd Gaer]]
 
{{Authority control}}