Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas Clarke"

Ychwanegwyd 22 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
B (Bot: Migrating 15 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q467047 (translate me))
(Awdurdod)
Roedd '''Thomas James Clarke''' ([[Gwyddeleg]]: Tomás Ó Cléirigh; [[11 Mawrth]] [[1857]] – [[3 Mai]] [[1916]]) yn genedlaetholwr [[Gwyddelod|Gwyddelig]] ac yn un o brif ysgogwyr [[Gwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]].
 
Ganed Clarke ar [[Ynys Wyth]] yn Lloegr, lle roedd ei dad yn rhingyll yn y Fyddin Brydeinig. Symudodd y teulu i [[Dungannon]], [[Swydd Tyrone]], [[Iwerddon]] yn fuan wedyn. Yn 18 ymunodd a'r ''Irish Republican Brotherhood'' (IRB) ac yn [[1883]] gyrrwyd ef i [[Llundain|Lundain]] gyda'r bwriad o beri ffrwydrad ar [[Pont Llundain|Bont Llundain]]. Cafodd ei ddal, a threuliodd y 15 mlynedd nesaf yng [[Carchar Pentonville|Ngharchar Pentonville]]. Rhyddhawyd ef yn [[1898]], a phriododd Kathleen Daly, Ymfudasant i'r [[Unol Daleithiau]], lle bu Clarke yn gweithio i'r [[Clan na Gael]] dan [[John Devoy]]. Dychwelodd i Iwerddon yn 1907 ac agorodd siop dybaco yn [[Dulyn|Nulyn]]. Daeth yn ddylanwadol iawn yn yr IRB.
 
Yn 1915 ffurfiodd Clarke a [[Seán Mac Diarmada]] bwyllgor o fewn yr IRB i drafod cynlluniau ar gyfer gwrthryfel. Dywedir mai'r bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi Clarke yn Arlywydd y Weriniaeth, ond gwrthododd ef, ac felly aeth y teitl i [[Padraig Pearse]]. Pan ddechreuodd y gwrthryfel yn Ebrill 1916, roedd Clarke, fel un o'r prif arweinwyr, yn Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr ildio ar [[29 Ebrill]], daliwyd Clarke yng [[Carchar Kilmainham|Ngharchar Kilmainham]] hyd [[3 Mai]], pan saethwyd ef gan y Fyddin Brydeinig. Ef oedd yr ail o'r arweinwyr i'w saethu, ar ôl Pearse. Etholwyd ei weddw, Kathleen, i'r Dail cyntaf a'r ail yn ddiweddarach.
[[Categori:Genedigaethau 1857|Clarke, Thomas]]
[[Categori:Marwolaethau 1916|Clarke, Thomas]]
 
{{Authority control}}
417,732

golygiad