Hanes Ynys Manaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
nodyn
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Mae '''hanes Ynys Manaw''' yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig [[yr Alban]] a [[Lloegr]], ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth [[Ynys Manaw]] yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysylltiasd tir gydag ardal [[Cumbria]]. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan oedd ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i [[Edwin brenin Northumbria]] ymosod ar yr ynys yn [[616]]. O gwmpas y [[10fed ganrif]] ymsefydlodd gwladychwyr o [[Iwerddon]] a datblygodd [[Manaweg]], sy'n iaith Oideleg tebyg i [[Gwyddeleg|Wyddeleg]]. Yn ôl traddodiad daeth [[Sant Maughold]] (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr [[y Celtiaid]], [[Manannán mac Lir]].
 
Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng [[800]] ac [[815]], ac o tua [[850]] ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd [[Dulyn]]. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn [[1079]] goresgynwyd yr ynys gan [[Godred Crovan]] oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl ''Rex Manniae et Insularum''. Roedd mab Godred, [[Olaf I, brenin Ynys Manaw|Olaf]], yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibynniaeth yr ynys.