Thomas Pennant (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 5:
Ganed Pennant yn nhŷ Downing, plwyf [[Chwitffordd]], ger [[Treffynnon]] yn Sir Fflint yn 1726 yn fab i David Pennant ac Arabella Mytton. Roedd [[Pennant (teulu)|teulu Pennant]] yn foneddigion oedd wedi bod yn berchen stad Bychton ers canrifoedd, ac roedd David Pennant wedi etifeddu stad gyfagos Downing yn [[1724]]. Ceir hanes llawn y plwyf yn y gyfrol ''The History of the Parishes of Whiteford and Holywell''. Cafodd y [[brech wen|frech wen]] yn blentyn.
 
Addysgwyd Thomas Pennant yn Ysgol Ramadeg [[Wrecsam]] ac yna yn ysgol Thomas Croft yn [[Fulham]], cyn mynd i [[Coleg y Frenhines, Rhydychen|Goleg y Frenhines, Rhydychen]] ac yna i [[Coleg Oriel, Rhydychen|Goleg Oriel, Rhydychen]].
 
Teithiodd Pennant yn eang i wneud ymchwil ar faterion naturiaethol a hynafiaethol. Aeth i [[Iwerddon]] yn [[1754]]. Priododd ag Elizabeth Falconer yn [[1759]]; priododd [[Ann Mostyn]] yn ddiweddarch. Yn [[1765]] aeth ar daith i'r cyfandir. Pedair blynedd yn ddiweddarach teithiodd o gwmpas [[Yr Alban]] ar gyfer ei lyfr ''A Tour in Scotland''; marchogodd yr holl ffordd, gan gychwyn yng [[Caer|Nghaer]]. Yn [[1778]] ymwelodd ag [[Ynys Manaw]]. Gwnaeth ei daith fawr yng Nghymru yn [[1773]] a [[1776]]. Roedd yr arlunydd [[Moses Griffith]] yn was iddo, ef ef fu'n gyfrifol am y lluniau yn ei lyfrau.
Llinell 42:
[[Categori:Naturiaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]
 
{{Authority control}}