Thomas Wiliems: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
Geiriadurwr Cymraeg a hynafiaethydd brwd oedd '''Thomas Wiliems''' ([[1545]] neu [[1546]] - [[1622]]).
 
==Bywgraffiad==
Fe'i magwyd ym mhlwyf [[Trefriw]], [[Arllechwedd Isaf]], [[Sir Gaernarfon]], cyn mynychu [[Prifysgol Rhydychen]] am adeg. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Anglicanaidd, gan wasanaethu fel curad yn [[Trefriw|Nhrefriw]] tua [[1573]].
 
Cyfeiriwyd ato gan ei gydoeswyr fel ''Syr'' Thomas Wiliems, nid am iddo gael ei ddyrchafu felly ond am fod offeiriaid y cyfnod yn arfer ymarddel y teitl hwn. Bu farw cyn [[13 Awst]] [[1623]], pryd ysgrifennodd Syr [[John Wynn]] o [[Castell Gwydir|Wydir]] ei enw ar lawysgrif y geiriadur (gweler isod) fel ei pherchennog.
 
==Ysgolheictod==
Ymddiddorai Thomas Wiliems yn fawr mewn hen [[Llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]]. Bu'n gyfrifol am gopïo nifer fawr ohonynt, gan gynnwys achau, gweithiau [[hanes]]yddol, gramadegau a gweithiau ieithyddol eraill.
 
Mae'n fwyaf adnabyddus am lunio [[geiriadur]] [[Lladin]]–Cymraeg ([[Peniarth]] 228), a gwplhawyd ym [[1607]], ac sy'n cynnwys rhestr o eiriau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor gydag enghreifftiau ohonynt o waith y beirdd. Teitl y geiriadur oedd ''Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ'' neu ''Trysawr yr iaith Latin ar Gymraec, ne’r Geiriadur cywoethocaf a helæthaf or wir dhiletiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith ynys Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604''. Seilir y geiriadur ar waith [[Thomas Thomas]], printiwr cyntaf [[Prifysgol Caergrawnt]], ''Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae'', a dywed yn y rhagymadrodd iddo dreulio 30 o flynyddoedd i gaslgu'r deunydd. Ei nod wrth lunio'r geiriadur oedd 'i wneuthur yr eithaf o'm galhu dros vy ngwlat ag iaith naturiawl vy mam, a'm hanwylgu gereint yn holh Gymru' ac 'y gadw'r iaith einom … yn dragyvyth', ac mae'n beirniadu rhai o'i gydwladwyr am beidio â chynorthwyo ei waith ac am wrthod siarad Cymraeg wrth ei gilydd.<ref name="Rhyddiaith Gymraeg 1954">''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (1954).</ref>
 
Mae ychwanegiadau ganddo yn ei lawysgrifau yn awgrymu iddo fod wedi troi i [[Catholigiaeth|Gatholigiaeth]]. Mae'n dyfynnu allan o weithiau Pabyddol wrth lunio ei eiriadur, heb ddefnyddio'r [[Beibl]] Protestannaidd Cymraeg. Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod ei oes, ond gwelodd olau dydd mewn ffurf dalfyredig fel rhan o eiriadur [[John Davies]] (''Dictionarium duplex'') ym [[1632]].<ref>'' name="Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (1954).<"/ref>
 
Cyhoeddodd y Dr [[John Davies o Fallwyd]] dalfyriad o eiriadur Thomas Wiliems yn ail ran ei eiradur Cymraeg-Lladin yr ''[[Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex]]'' (1632).<ref>Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref>
Llinell 34:
[[Categori:Pobl o Drefriw]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]]
 
{{Authority control}}