Tiberius Sempronius Gracchus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 31 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q212109 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Tiberius Gracchus.jpg|thumb|right|Tiberius Sempronius Gracchus]]
Gwleidydd [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufeinig]] oedd '''Tiberius Sempronius Gracchus''' ([[163 CC]]-[[132 CC]]). Fel [[tribwn]] y bobl yn [[133 CC]]. cyflwynodd fesurau radicalaidd i ail-ddosbarthu tir i dlodion Rhufain.
 
Ganed Tiberius yn [[163 CC]], yn fab i [[Tiberius Gracchus Major]] a [[Cornelia Africana]]. Roedd teulu'r Gracchi yn un cyfoethog a dylanwadol; ar ochr ei fam roedd yn ŵyr i [[Publius Cornelius Scipio Africanus]], y cadfridog a orchfygodd [[Hannibal]]. Roedd ganddo frawd iau, [[Gaius Gracchus]]. Priododd Claudia Pulchra, ond ni fu iddynt blant.
Llinell 10:
Yn [[133 CC]] etholwyd Tiberius yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw ''Lex Sempronia agraria''. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 ''jugera'' (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr.
 
Golygai hyn y byddai llawer o bobl gyfoethocaf Rhufain yn colli tiroedd helaeth, a bu gwrthwynebiad ffyrnig ganddynt. Gan na chytunai'r senedd i'r mesur, aeth Tiberius at y bobl yn y ''[[Concilium Plebis]]'', lle roedd cefnogaeth iddo. Perswadiodd y seneddwyr dribwn arall, [[Marcus Octavius]], i geisio atal y mesur, ond taflodd Tiberius ef o'r cyfarfod, a bleidleisodd wedyn i'w ddiswyddo fel tribwn.
 
Pasiwyd y mesur, ond dim ond ychydig iawn o arian a roddodd y senedd i'w weithredu. Fodd bynnag, yn hwyr yn [[133 CC]] bu farw [[Attalus III]], brenin [[Pergamum]], gan adael ei holl gyfoeth i Rufain. Defnyddiodd Tiberius ei swydd fel tribwn i glustnodi'r arian yma i roi ei fesur mewn gweithrediad. Cynyddodd gelyniaeth y senedd.
 
Yn [[132 CC]], cynigiodd Tiberius ei hun i'w ail-ethol fel tribwn. Ar ddiwrnod yr etholiad, ymosodwyd arno ef a'i ganlynwyr gan seneddwyr a'u cefnogwyr, a arweinid gan ei gefnder ei hun,
Llinell 22:
[[Categori:Marwolaethau 132 CC]]
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain|Gracchus, Tiberius Sempronius]]
 
{{Authority control}}