Valerian I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q46750
Awdurdod
Llinell 5:
Yn wahanol i lawr o'r ymerodron yn ystod [[Argyfwng y Drydedd Ganrif]] yr oedd Valerian o deulu bonheddig a [[Senedd Rhufain|seneddol]]. Priododd ddwywaith, yr ail dro gyda Egnatia Mariniana, a chafodd ddau fab ganddi hi, [[Gallienus]] a [[Valerian II]].
 
Yn [[238]] yr oedd yn ''princeps senatus'', a gydag ef y bu [[Gordian I]] yn trafod i gael ei gydnabod yn ymerawdwr gan y Senedd. Yn [[251]], yn nheyrnasiad [[Decius]], penodwyd ef yn [[censor]]. Yn ddiweddarach daeth yn rhaglaw taleithiau [[Noricum]] a [[Rhaetia]]. Gofynnodd yr ymerawdwr [[Trebonianus Gallus]] am ei gymorth yn wyneb gwrthryfel [[Aemilianus]] yn [[253]]. Cychwynodd Valerian tua'r de, ond daeth y newyddion fod Gallus wedi ei ladd gan ei filwyr ei hun. Cydnabuwyd Aemilius yn ymerawdwr gan y Senedd, ond nid oedd Valerian yn fodlon derbyn hyn ac arweiniodd ei fyddin yn ei erbyn. Cyfarfu'r ddwy fyddin gerllaw [[Spoleto]], a phan welodd milwyr Aemilius fod byddin Valerian yn gryfach, llofruddiwyd Aemilianus ganddynt. Derbyniodd y Senedd Valerian yn ymerawdwr ar unwaith.
 
Enwodd Valerian ei fab Galienus fel cyd-ymerawdwr. Ar ddechrau ei deyrnasiad yr oedd problemau yn Ewrop, yna bu trafferthion mwy yn y Dwyrain. Cipiodd y [[Persia]]id dan [[Shapur I]] ddinas [[Antiochia]] a meddiannu [[Armenia]]. Tra'r oedd Galienus yn delio ag Ewrop, teithiodd Valerian tua'r dwyrain. Tua [[257]] llwyddodd Valerian i gael Antiochia a thalaith [[Syria]] yn ôl, ond y flwyddyn wedyn ymosododd y [[Gothiaid]] ar [[Asia Leiaf]]. Tua diwedd [[259]] ye oedd yr ymerawdwr yn [[Şanlıurfa|Edessa]], ond effeithiwyd ar ei fyddin gan glefyd. Rhywsut, efallai trwy frad pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], [[Macrinus]], cymerwyd Valerian yn garcharor gan y Persiaid. Credir iddo gael ei drin yn greulon ac yna ei ddienyddio. Arddangoswyd ei groen ym mhrif deml y Persiaid. Llwyddodd Gallienus i gadw ei afael ar yr orsedd hyd [[268]]. Wedi marwolaeth Valerian, meddiannwyd Syria a [[Cappadocia]] gan y Persiaid.
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 17:
 
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
 
{{Authority control}}