Vincent van Gogh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Awdurdod
Llinell 6:
Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr - ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn. Ym [[1880]] y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym [[Paris|Mharis]] ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.
 
[[Delwedd:Vincent Willem van Gogh 128.jpg|bawd|200px|de|Mae ei gyfres o luniau o flodau'r haul ymysg ei waith enwocaf]]
 
Roedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar [[27 Gorffennaf|y seithfed ar hugain o Orffennaf]] [[1890]], fe'i saethodd ei hun yn ei frest. Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i dddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "''La tristesse durera toujours''" (fe bery'r tristwch am byth).
Llinell 35:
[[Categori:Marwolaethau 1890]]
[[Categori:Pobl fu farw trwy hunanladdiad]]
 
{{Authority control}}