Walter Davies (Gwallter Mechain): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 9:
Yn ei ieuenctid ymddiddorai Gwallter Mechain yng ngwaith y beirdd gwlad traddodiadol yn ei fro a chyfansoddodd sawl [[carol plygain]] yn y dull traddodiadol. Cyfansoddodd nifer o gerddi a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ar ôl ei farwolaeth. Roedd ganddo feistrolaeth dda ar ffurfiau barddonol ond braidd yn sych y mae llawer o'i gerddi mawr i ddarllenwyr heddiw, ond mae rhai o'i [[englyn]]ion yn ffraeth. Enillodd sawl tlws eisteddfodol, yn cynnwys y rhai a enillodd yn [[eisteddfodau]] a drefnwyd gan y [[Gwyneddigion]] yn [[Y Bala]] ([[Eisteddfod Y Bala 1789]]), [[Corwen]] ([[Eisteddfod Corwen 1789]]) a [[Llanelwy]] ([[Eisteddfod Llanelwy 1790]]), ond roedd nifer o'i gyd-feirdd yn amau twyll oherwydd gohebiaeth gyfrinachol rhwng Gwallter ac [[Owain Myfyr]] (profwyd hyn yn wir yn ddiweddarach).
 
Mae un o'i gerddi, 'Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816', o weth hanesyddol fel disgrifiad o effaith haf gwlyb [[1816]], a achoswyd gan ffrwydrad [[Mynydd Tambora]] yn Indonesia yn 1815, ar amaethyddiaeth Cymru.
 
Fel golygydd gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd llenyddol hanner cyntaf y [[19eg ganrif]]. Roedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn ''[[Y Gwyliedydd]]'' (1822-38) a chyfrannodd nifer o ysgrifau Saesneg ar hanes lleol Powys a rhannau eraill o Gymru i gylchgronau Cymry Llundain. Golygodd waith rai o' feistri'r gorffennol, e.e. gwaith [[Huw Morys (Eos Ceiriog)]] (1823) a golygiad o gerddi [[Lewys Glyn Cothi]] (1837, gyda [[John Jones (Tegid)]]).
Llinell 36:
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]]
 
{{Authority control}}