William Davies Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Awdurdod
Llinell 2:
Fforiwr o Gymro oedd y Capten '''William Davies Evans''' ([[1790]] - [[1872]]). Yn ogystal â bod yn fforiwr enwog fe'i cofir fel dyfeisydd '[[Gambit Evans]]' mewn [[gwyddbwyll]].
 
Ganwyd Evans mewn ffermdy o'r enw Musland Farm ym mhlwyf Sant Degwel ger [[Hwlffordd]], [[Sir Benfro]]. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd [[Napoleon I o Ffrainc|Napoleon]] i ben yn 1815. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr ''Auckland'' a hwyliai rhwng Milffwrdd a [[Waterford]] yn [[Iwerddon]]. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r [[gambit]] enwog ar y teithiau unig rhwng [[Cymru]] ac [[Iwerddon]].
 
Yn 1826, cerddodd y Capten Evans i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, [[Llundain]] a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr [[gwyddbwyll]] cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A. McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau 'Gambit Evans' sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan [[Garry Kasparov]], yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn [[Riga]], 1995.
Llinell 15:
[[Categori:Marwolaethau 1872]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
 
{{Authority control}}