Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "William Wallace"

Ychwanegwyd 19 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
B (Bot: Migrating 60 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q82457 (translate me))
(Awdurdod)
[[Delwedd:William Wallace.jpg|bawd|250px|William Wallace]]
 
Roedd Syr '''William Wallace''' (c.[[1270]] - [[23 Awst]], [[1305]]; Albaneg: Uilleam Uallas) yn ffigwr allweddol yn y gwrthwynebiad Albanaidd i ymgais brenin [[Lloegr]], [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]], i goncro'r [[Alban]].
 
Mae ansicrwydd lle ganed Wallace; yn ôl y traddodiad yn [[Elderslie]], gerllaw [[Paisley]]. Ymddengys ei fod o deulu o'r boneddigion llai; yn ôl traddodiad roedd yn fab i Sir Malcolm Wallace o Elderslie, ond enwir ei dad fel Alan Wallace hefyd. Awgrymwyd fod y cyfenw "Wallace" yn dynodi fod y teulu yn ddisgynyddion aelodau o un o deyrnasoedd Brythoneg [[Yr Hen Ogledd]].
 
Pan fu farw [[Alexander III, brenin yr Alban]] yn 1286, dechreuodd cyfnod o ansicrwydd yn yr Alban. Ei aeres oedd ei wyres Margaret, nad oedd ond pedair oed ac yn byw yn [[Norwy]]. Bu Margaret farw yn 1290 ar ei ffordd i'r Alban o Norwy. Roedd nifer o bobl yn hawlio'r orsedd ar farwolaeth Margaret, a gofynnwyd i Edward I o Loegr farnu rhyngddynt. Dewisodd ef [[John Balliol]], a choronwyd ef yn frenin. Fodd bynnag manteisiodd Edward ar y cyfle i ymosod ar yr Alban. Erbyn Gorffennaf 1296 yr oedd wedi goresgyn y wlad, a gorfododd Balliol i ildio'r goron.
 
Rywryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu [[William Heselrig]], Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai [[1297]], ac enillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar [[11 Medi]], [[1297]], enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym [[Brwydr Pont Stirling|Mrwydr Pont Stirling]], pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.
 
[[Delwedd:Wfm wallace monument.jpg|250px|thumbnail|left|Cofgolofn William Wallace yn Stirling]]
[[Categori:Marwolaethau 1305|Wallace, William]]
[[Categori:Albanwyr|Wallace, William]]
 
{{Authority control}}
595,650

golygiad