Zeami Motokiyo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 1:
[[Estheteg|Esthetegydd]]ydd, actor a dramodydd o [[Japan]] oedd '''Zeami Motokiyo''' ([[Japaneg]]: 世阿弥 元清) (tua 1363 - tua 1443), neu '''Kanze Motokiyo''' (観世 元清). Cyflwynodd ei dad, [[Kan'ami]], theatr [[Noh]] iddo pan oedd yn ifanc a sylweddoli mai actor medrus oedd ef. Wrth i gwmni theatr y teulu fynd yn fwy poblogaidd, cafodd Zeami'r cyfle i berfformio o flaen y [[siogwn]] [[Ashikaga Yoshimitsu]]. Gwnaeth yr actor argraff ar y siogwn a daeth yn gyfaill iddo. Cyflwynwyd Zeami i lys Yoshimitsu a derbyniodd addysg mewn llenyddiaeth glasurol ac athrawiaeth tra oedd yn parhau i actio. Ym 1374, noddwyd Zeami ac actio ddaeth yn brif swydd iddo. Ar ôl i'w dad farw ym 1384, ef arweiniodd cwmni'r teulu ac roedd ei yrfa'n fwy llewyrchus byth.
 
[[Categori:Genedigaethau'r 1360au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1440au]]
 
{{Authority control}}