Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffrisia"

Ychwanegwyd 4,692 beit ,  6 blynedd yn ôl
ehangu: y tri rhanbarth
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q4492881)
(ehangu: y tri rhanbarth)
Ardal hanesyddol yng ngogledd ddwyrain [[yr Iseldiroedd]] a gogledd orllewin [[yr Almaen]] ar lannau [[Geneufor yr Almaen]] yw '''Ffrisia'''. Heddiw fe'i rhennir yn [[Fryslân]] yn yr Iseldiroedd ac [[Ostfriesland]] a [[Nordfriesland]] yn yr Almaen.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/220467/Frisia |teitl=Frisia |dyddiadcyrchiad=1 Mawrth 2014 }}</ref> Ffrisia yw mamwlad y [[Ffrisiaid]], sy'n siarad yr iaith [[Ffriseg]].
 
== Rhanbarthau ==
Rhennir Ffrisia yn dri rhanbarth: Gorllewin Ffrisia yng ngogledd yr Iseldiroedd, Gogledd Ffrisia yng ngogledd yr Almaen ar orynys Jutland, a Dwyrain Ffrisia yng ngogledd orllewin yr Almaen. Mae [[Ynysoedd Ffrisia]] yn ymestyn ar draws y tri rhanbarth.
 
=== Gorllewin Ffrisia ===
[[Delwedd:Frisian flag.svg|bawd|Baner Gorllewin Ffrisia, a fabwysiadwyd yn swyddogol gan dalaith Fryslân ym 1957. Mae ganddi bedwar stribed lletraws glas ar gefndir gwyn gyda [[lili'r dŵr felen|lilïau dŵr]] coch (''pompeblêd''). Mae symbol y lili dŵr yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, a defntddiwyd y faner hon gan fudiadau Ffrisiaidd ers y 18eg ganrif.<ref name=A92>Bodlore-Penlaez, Mikael. ''Atlas of Stateless Nations in Europe'' (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 92.</ref>]]
Mae ardal Gorllewin Ffrisia heddiw yn cyfateb i dalaith [[Fryslân]] yn yr Iseldiroedd. Mae'r iaith Ffriseg yn gryf yn yr ardal hon: yn 2007 roedd 74% yn gallu siarad yr iaith, 75% yn medru ei darllen, a 25% yn medru ei hysgrifennu. Mae chwaraeon gaeafol yn boblogaidd yng Ngorllewin Ffrisia, yn enwedig [[Fierljeppen]] a [[sglefrio iâ]]. Mae'r ardal yn fyd-enwog am y [[buwch Ffrisiaidd|fuwch Ffrisiaidd]] a'r [[ceffyl Ffrisiaidd]]. Ymhlith prif drefi Gorllewin Ffrisia mae [[Franeker]] (Ffriseg: Frjentsjer), [[Harlingen]] (Harns), [[Het Bildt]] (It Bilt), [[Heerenveen]] (It Hearrenfean), [[Leeuwarden]] (Ljouwert), [[Smallingerland]] (Smellingerlân), a [[Sneek]] (Snits).<ref name=A92/>
 
=== Gogledd Ffrisia ===
[[Delwedd:Nordfriesischeflagge.svg|bawd|chwith|Baner Gogledd Ffrisia, baner drilliw lorweddol o stribedi melyn, coch a glas: mae'n symboleiddio'r machlud haul ar [[Môr Wadden|Fôr Wadden]]. Daw'r lliwiau o arfbais Gogledd Ffrisia.<ref name=A94>Bodlore-Penlaez (2011), t. 94.</ref>]]
Mae Gogledd Ffrisia (Almaeneg: ''Nordfriseland'') heddiw yn rhan o dalaith [[Schleswig-Holstein]] yn yr Almaen. Yn hanesyddol mae dwy ardal i Ogledd Ffrisia: yr ardal gyfandirol ar orynys [[Jutland]], a'r ardal sy'n cynnwys nifer o ynysoedd a gorynysoedd bychain gan gynnwys [[Söl]], [[Feer]], [[Öömrang]], a [[Noordströön]]. Hyd 1864 roedd Gogledd Ffrisia yn rhan o [[Denmarc|Ddenmarc]]. Cafodd ei choncro gan yr Almaen a'i gwneud yn dair ardal: [[Südtondern]], [[Husum]], ac [[Eiderstedt]]. Unwyd y dair ardal ym 1970. Mae hanes y Ffrisiaid yn yr ardal hon yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 700. Siaredir Ffriseg yn frodorol gan 10,000 o drigolion Gogledd Ffrisia, a [[Mooringer Frasch]] yw'r brif dafodiaith. Ymhlith prif drefi Gogledd Ffrisia mae [[Wyk auf Föhr]] (Bi de Wik), [[Bredstedt]] (Bräist), [[Husum]] (Hüsem), [[Niebüll]] (Naibel), a [[Sylt]] (Söl).<ref name=A94/>
 
=== Dwyrain Ffrisia ===
[[Delwedd:Flag of East Frisia.svg|bawd|Baner Dwyrain Ffrisia, baner drilliw lorweddol o stribedi du, coch a glas: lliwiau'r teuluoedd llywodraethol.<ref name=A95>Bodlore-Penlaez (2011), t. 95.</ref>]]
Roedd Dwyrain Ffrisia yn [[tywysogaeth|dywysogaeth]] hunanlywodraethol hyd 1744. Mae pedair ardal gan Ddwyrain Ffrisia: [[Auerk]], [[Emden]], [[Lierre]], a [[Wittmund]]. Mae ardaloedd [[Freesland]], [[Wilhelmshaven]] ac [[Ammerland]] hefyd yn hanesyddol yn rhan o diriogaeth Ffrisia. Mae 700,000 o bobl yn byw yn Nwyrain Ffrisia. Ceir hefyd siaradwyr Ffriseg yn [[Saterland]] sy'n siarad y [[Saterlandeg]]. Prif iaith arall yr ardal yw tafodiaith Ffrisiaidd yr [[Isel Almaeneg]]. Mae [[diwylliant te]] cryf gan drigolion yr ardal hon, a [[Boßeln]] yw'r fabolgamp draddodiadol. Ymhlith prif drefi Dwyrain Ffrisia mae [[Ammerland]], [[Aurich]] (Isel Almaeneg: Auerk), [[Emden]], [[Leer]], [[Norden]] (Nörden), [[Bad Zwischenahn]] (Twüschenahn), [[Wilhelmshaven]] (Willemshaven), [[Weener]], [[Westerstede]] (Westerstäe), a [[Wittmund]], ac yn Saterland [[Ramsloh]] (Saterlandeg: Roomelse), [[Scharrel]] (Schäddel), [[Sedelsberg]] (Seedelsbierich), a [[Strücklingen]] (Strukelje).<ref name=A95/>
 
[[Delwedd:All Frisian flag Scandinavial model.svg|bawd|chwith|Y Faner Holl-Ffrisiaidd, a gynigir yn 2007 gan Groep fan Auwerk i gynrychioli'r holl ardaloedd Ffrisiaidd: lili dŵr y gorllewin, y lliw melyn i'r gogledd a'r lliw glas i'r dwyrain.<ref>Bodlore-Penlaez (2011), t. 90.</ref>]]
[[Delwedd:Friesenbeflaggung.jpg|bawd|Baneri'r tri rhanbarth o Ffrisia yn chwifio tu allan i'r Gyngres Ryng-Ffrisiaidd yn Leck, Gogledd Ffrisia, yn 2006.]]
 
== Gwleidyddiaeth ==
Ymhlith y pleidiau gwleidyddol rhanbarthol sy'n ymgyrchu dros gynrychiolaeth i'r Ffrisiaid yw [[Fryske Nasjional Partij]] (Y Blaid Genedlaethol Ffrisiaidd), [[De Friezen]]/Ddie Friesen]] (Y Ffrisiaid), [[Partij voor het Noorden]] (Plaid y Nordwyr), a [[Südschleswigsche Wählerverband]] (Undeb Schleswig y De).<ref>Bodlore-Penlaez (2011), t. 93.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Hanes yr Almaen]]
[[Categori:Hanes yr Iseldiroedd]]
{{eginyn Ewrop}}
66,360

golygiad