Edwin Lutyens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
{{Comin}}
 
Pensaer o Sais oedd Syr '''Edwin Landseer Lutyens''' (29 Mawrth 1869 – 1 Ionawr 1944). Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y [[Mudiad Celf a Chrefft]], â dealltwriaeth gryf o draddodiadau adeiladu gwerinol yn ogystal â phensaernïaeth clasurol. Ym marn llawer o feirniaid mae ei weithiau yn crynhoi'r feddylfryd Edwardaidd, Seisnig i'r dim, ac mai'r plastai cynnar a gynlluniwyd ganddo yn cyfuno rhamaniaeth â chlasuriaeth mawreddog. Yn dilyn chwalu'r byd hwn yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] cynlluniodd Lutyens rai o gofadeiladau mwyaf cofiadwy yr oes, yn enwedig y [[Y Senotaff, Llundain|Senotaff]] yn Llundain a [[Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme|Chofeb Thiepval i Golledigion y Somme]]. Ymhlith ei gynlluniau mwyaf uchelgeisiouchelgeisiol oedd prifddinas newydd ar gyfer [[India]], [[Delhi Newydd]], a chadeirlan Gatholig enfawr yn [[Lerpwl]]; dim ond crypt yr adeilad hwn a'i adeiladwyd i'w gynlluniau. Canmolwyd Lutyens fel "pensaer gorau [Prydain] ers [[Christopher Wren|Wren]]"<ref> {{dyf gwe|iaith=en|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T052532|teitl=Lutyens, Edwin|cyfenw=Stamp|enwcyntaf=Gavin|gwaith=Oxford Art Online|cyhoeddwr=[[Gwasg Prifysgol Rhydychen]]|dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2014}}</ref> ac ef oedd y dylanwad mwyaf ar bensaernïaeth clasurol yng ngwledydd Prydain yn yr 20fed ganrif cynnar, ond ystyrir hefyd ei fod hefyd wedi bod yn ddylanwad ceidwadol iawn ar adeg pan oedd pensaernïaeth modern yn datblygu ar y cyfandir.
 
==Cyfeiriadau==