Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llwybr Taf"

Ychwanegwyd 30 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
cyswllt uniongyrchol i'r nod
(cat)
B (cyswllt uniongyrchol i'r nod)
Mae'r llwybr yn cychwyn ym Mhlas Roald Dahl, Caerdydd, ac yn croesi Afon Taf ac yna'n ei dilyn tua'r gogledd drwy ganol y ddinas, gan ddod o fewn 50 llath i orsaf reilffordd ganolog Caerdydd a [[Stadiwm y Mileniwm]]; yna mae'n arwain trwy [[Gerddi Sophia|Erddi Sophia]], [[Parc Bute]] a Meysydd [[Pontcanna]]. Wedi gadael y ddinas, mae'n mynd drwy bentref [[Tongwynlais]], lle mae'n fforchio, gydag un fforch yn dringo i [[Castell Coch|Gastell Coch]] a'r fforch arall yn mynd islaw'r castell. Mae'r ddwy ran yn ail-ymuno ger [[Nantgarw]].
 
Oddi yma, mae'n dilyn llwybr seiclo cenedlaethol rhif 4 heibio [[Pontypridd]] a [[Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf|Rhydyfelin]], [[Cilfynydd]] ac [[Abercynon]]. Ger [[Pontygwaith, Merthyr Tudful|Pontygwaith]], mae'n dringo'n serth uwchben y briffordd [[A470]] i [[Aberfan]], yna trwy bentrefi [[Troed-y-rhiw]] ac [[Abercannaid]], i gyrraedd [[Merthyr Tudful]].
 
Oddi yno, mae'n dilyn [[Afon Taf Fechan]] trwy [[Pontsticill]], tros [[Bannau Brycheiniog|Fannau Brycheiniog]] a heibio [[Talybont-ar-Wysg]], i [[Aberhonddu]], gan ddilyn [[Camlas Mynwy ac Aberhonddu]] am ychydig cyn cyrraedd y pen draw.
9,149

golygiad