Clan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Grŵp ceraint o deuluoedd estynedig sy'n olrhain eu llinach yn ôl i gydhynafiad unigol yw '''cla...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Grŵp cymdeithasol|Grŵp]] [[carennydd|ceraint]] o [[teulu estynedig|deuluoedd estynedig]] sy'n olrhain eu llinach yn ôl i gydhynafiad unigol yw '''clan'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [clan].</ref> Mae'r dras a rennir yn rhoi i'r teuluoedd gwahanol syniad o hanes cyffredin rhyngddynt.<ref>Mackenzie, John M. ''Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present'' (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 12.</ref> Fel arfer mae'r dras yn [[tras unllinellog|unllinellog]] neu o linach y tadau neu'r mamau'n unig. Gan amlaf, ond nid pob amser, mae claniau yn [[allbriodas]]ol, a chaiff priodas o fewn y clan ei gweld yn [[llosgach]].<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/119660/clan |teitl=clan (kinship group) |dyddiadcyrchiad=19 Tachwedd 2014 }}</ref>
 
Yn hanesyddol cysylltir y term â [[claniau'r Alban|chlaniau'r Alban]] ac [[claniau Iwerddon|Iwerddon]], ond defnyddir yn fwyfwy heddiw i ddisgrifio grwpiau ar draws y byd. O ran maint, mae clan yn tueddu i fod yn fwy na [[band (grŵp cymdeithasol)|band]] ond yn llai na [[llwyth]]. Mewn rhai cymdeithasau mae nifer o glaniau yn ffurfio llwyth.
 
== Cyfeiriadau ==