Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 194.83.82.9 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Anatiomaros. |
||
Llinell 49:
Yn y chweched a'r seithfed ganrif cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr [[Eingl]], [[Sacsoniaid]], a [[Jutiaid]]) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel [[Wessex]], [[Mercia]], [[Essex]], [[Sussex]], a [[Northumbria]]. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y [[Brythoniaid]] a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r [[Llychlyniaid]] yn yr wythfed a'r nawfed ganrif, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r [[Deyrnas Unedig]] wedyn.
Nawddsant Lloegr: [[Sant Siôr]] - [[23 Ebrill]].
|