Iseldireg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 19:
Iaith frodorol [[yr Iseldiroedd]] ydy '''Iseldireg''' neu '''Isalmaeneg''' (''Nederlands'':{{Sain|Nl-Nederlands.ogg|ynganiad Iseldireg}}). Mae hi'n rhan o'r teuluoedd ieithyddol [[Indo-Ewropeaidd]]. Mae'n perthyn i'r teulu ieithyddol [[Ieithoedd Germanaidd|Germanaidd]] fel [[Saesneg]] ac [[Almaeneg]] fodern.
 
== Gwledydd lle y siaredir Iseldireg ==
[[Delwedd:Dutcharea.png|left|220px|thumb|Map yn dangos lle siaredir Iseldireg yn Ewrop.]]
Siaredir Iseldireg gan bron holl ddinasyddion yr [[Iseldiroedd]] a [[Fflandrys]]. Iaith frodorol [[Fflandrys]] ydy '''Fflemeg''' tafodiaith o'r Iseldireg i rai, ond iaith ar wahan i lawer. Cai ei galw'n ''Vlaams'' [[Fflemeg]] yn aml iawn yn Fflandrys er nad oes lawer iawn o wahaniaethau o fewn yr iaith Iseldireg yr [[Iseldiroedd]] a [[Gwlad Belg]]. Siaredir hi hefyd yn ardaloedd dwyieithog [[Brwsel]] ynghyd â Ffrangeg ac ieithoedd eraill. Yn y rhan fwyaf gogleddol o [[Ffrainc]], [[Dunkerque|''arrondissement'' Dunkirk]], siaredir Iseldireg o hyd fel iaith leiafrifol a elwir hefyd yn ''Vlaams''. Ar ynysoedd [[Aruba]] ac [[Antilles yr Iseldiroedd]] defnyddir Iseldireg o hyd ond mae'n llai cyffredin na [[Papiamento]] a [[Saesneg]]. Siaredir Iseldireg fel mamiath o hyd yn [[Suriname]] gan tua 60% o'r boblogaeth, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddwyieithog gyda [[Sranan Tongo]] neu ieithoedd ethnig eraill. Mae yna nifer o siaradwyr Iseldireg yng ngwledydd gyda mewmfudwyr o'r [[Iseldiroedd]] a [[Fflandrys]] fel [[Canada]], [[Awstralia]], [[Seland Newydd]], ac [[UDA]]. Mae'r iaith [[Afrikaans]] sydd yn fwy neu lai dealladwy i siaradwr yr Iseldireg yn cael ei siarad yn [[De Affrica|Ne Affrica]] a [[Namibia]]. Mae yna hefyd nifer o siaradwyr Iseldireg yn [[Indonesia]].