Ysgawen Fair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Ysgawen Fair
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 35:
}}
 
[[Planhigyn blodeuol|Coeden]] a math o [[ysgawen]] bychanfechan yw '''Ysgawen Fair''' sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu ''[[Adoxaceae]]'' yn y genws ''[[Sambucus]]''. Yr enw gwyddonol ([[Lladin]]) yw ''Sambucus ebulus'' a'r enw Saesneg yw ''Dwarf elder''. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ysgawen Fair, Corysgaw, Corysgawen, Creulif Mair, Creulys Mawr, Gwaed y Gwŷr, Walwrt, Ysgaw Fair, Ysgaw Mair, Ysgaw'r Ddaear, Ysgawen Bendiged, Ysgawen Fendigaid ac Ysgawen y Ddaear.
 
Mae'n tyfu'n frodorol yng nghanol [[Ewrop]] a de-orllewin [[Asia]] ac erbyn heddiw mewn rhannau o Ogledd America a Chanada.<ref>[http://bonap.net/MapGallery/County/Sambucus%20ebulus.png BONAP (Biota of North America Project) floristic synthesis, ''Sambucus ebulus'']</ref> Mae'n tyfu i uchder o un i ddwy fetr, sy'n ei gwneud yn fwy o [[llwyn|lwyn]] nac o goeden mewn gwirionedd. Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd, tua 15–30&nbsp;cm o hyd, gyda 5-9 rhan, neu ddail bychan. Ceir sypiau o aeron duon yn yr hydref - a phob un oddeutu 5–6&nbsp;mm mewn diametr.