Necropolis Giza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Necropolis Giza''' yn safle archeolegol ar Lwyfandir [[Giza]], ar gyrion [[Cairo]], [[Yr Aifft]]. Mae'r casgliad o henebion ar y safle yn cynnwys y tri cyfadeilad o byramidiau a elwir y Pyramidiau Fawr, y cerflun anferth a adweinir fel y [[Sffincs Mawr]], nifer o fynwentydd, pentref gweithwyr a safle diwydiannol. Mae wedi ei leoli tua 9 km (5 milltir) i mewn i'r anialwch o dref hynafol Giza ar yr [[Afon Nîl]], a thua 25 o gilomedrau (12.5 milltir) i'r de orllewin o ganol dinas Cairo
[[File:Giza-pyramids.JPG|thumb|Pyramidiau Giza]]
 
Roedd y pyramidiau yn boblogaidd yn y cyfnod Helenistaidd, rhestrwyd y Pyramid Mawr gan Antipater o Sidon fel un o Saith Rhyfeddod y Byd, bellach dyma'r unig un o'r saith ryfeddod hynafol sy'n dal i fodoli.<ref> Ancient History Encyclopedia - The Seven Wonders [http://www.ancient.eu/The_Seven_Wonders/] adalwyd 7 Rhagfyr 2014</ref>
 
==Y Pyramidiau a'r Sffincs==
 
Mae Pyramidiau Giza yn cynnwys [[Y Pyramid Mawr]] (a elwir yn Byramid ''Cheops'' neu ''Khufu''), [[Pyramid Khafre]] (neu ''Chephren'') sydd rywfaint yn llai ac yn sefyll ychydig gannoedd o fetrau i'r de-orllewin o'r Byramid Mawr, pyramid cymharol fach [[Pyramid Menkaure|Menkaure]] (neu ''Mykerinos'') ychydig o gannoedd o fetrau ymhellach; [[Y Sffincs Mawr]] sydd yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol y safle a phyramidiau’r breninesau.
[[File:Great Sphinx of Giza - 20080716a.jpg|thumb|Y Sffincs Mawr]]
 
==Adeiladu'r Pyramidiau==
Bu llawer o ddamcaniaethau i esbonio sut y cafodd y pyramidiau eu hadeiladu. Mae'r damcaniaethau yn cynnwys: