Idris Gawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
==Idris ap Gwyddno==
Brenin [[Meirionnydd (cantref)|Cantref Meirionnydd]] oedd Idris ap Gwyddno, a fu farw yn ôl y blwyddnodion Cymreig yn y flwyddyn 636 mewn brwydr yn erbyn y [[Sacsoniaid]] ar lannau'r [[Afon Hafren]], ac a oedd, yn ôl blwyddnodion [[Ulster]] yn herio pendefigaeth [[Gwynedd]] dros Feirion a [[Mawddwy]]. Yr oedd gan Idris ap Gwyddno [[Bryngaer]] neu ''Kadr'' (lle cadarn) ar lethrau '''Cader''' Idris, ac yr oedd yn arbenigwr ar seryddiaeth. Mae'n debyg gan hynny mae'r ''gŵr mawr'' hwn yn eistedd yn ei ''Gadr'' ac yn ''cyffwrdd y sêr'' oedd sylfaen mytholeg Idris y Cawr a'i gadair ger Dolgellau. <ref>Smith, J B a Smith, Ll B; T4 ''History of Merioneth Volume II'' Gwasg Prifysgol Cymru 2001 ISBN0-7083-1709-X</ref>
 
==Cerrig Esgid Idris==
Ar ffordd yr [[A487]] - rhwng Tafarn y Cross Foxes a [[Corris|Chorris]] mae yna nifer o gerig anferth ar ochr y lôn a symudwyd yno, yn ôl pob tebyg, wrth i'r iâ toddi ar ddiwedd [[Oes yr Iâ]] diwethaf. Yn ôl chwedloniaeth leol cerrig a daflodd Idris Gawr allan o'i esgidiau ydynt, wrth iddo deimlo'n anghyffyrddus wrth gerdded o'i gader i fynd i ymofyn diod o ddŵr o [[Llyn Mwyngil|Lyn Mwyngil]]
 
==Cyfeiriadau==