Peshawar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
delweddau
Llinell 1:
[[Delwedd:Peshawar_at_night.jpg|250px|bawd|Peshawar gyda'r nos]]
 
Dinas yng ngogledd-orllewin [[Pacistan]] yw '''Peshawar''' ([[Pashto]]: پېښور; [[Wrdw]]: پشاور) sy'n brifddinas [[Khyber Pakhtunkhwa]] a chanolfan weinyddol yr [[Ardaloedd Llwythol dan Weinyddiaeth Ffederal]] ym Mhacistan. Ystyr "''Peshawar''" yn yr iaith [[Perseg|Berseg]] yw 'Y Gaer Uchel' ac fe'i gelwir yn ''Pekhawar'' yn Pashto (Pukhto). Mae'n gorwedd ar uchder o 510 m (1.673 troedfedd) ar y ffordd hanesyddol sy'n arwain i [[Bwlch Khyber|Fwlch Khyber]], am y ffin ag [[Affganistan]], ac mae'n groesffordd a chanolfan fasnach ers canrifoedd lawer. Poblogaeth: tua 2,955,254.
 
==Hanes==
[[Delwedd:Old Peshawar.jpg|250px|bawd|Golygfa yn 'Hen Beshawar']]
Sefydlwyd dinas hynafol Purushpur ar neu ger safle Peshawar gan Kanishk Fawr, un o frenhinoedd y [[Kushan]] o Ganolbarth Asia. Bu'n ganolfan dysg [[Bwdhaeth|Fwdhaidd]] ryngwladol hyd y 10fed ganrif ac yn brifddinas teyrnas Indo-Roeg hynafol [[Gandhara]]. Dyma pryd codwyd [[Stupa]] Fawr Kanishka ar gyrion Peshawar, y dywedir iddo fod yr adeilad uchaf y byd yn ei gyfnod gydag uchder o 700 troedfedd. Sefydlwyd y ddinas bresennol gan yr ymerawdwr [[Akbar]] yn yr 16eg ganrif.
 
Llinell 8 ⟶ 9:
 
==Gweler hefyd==
*[[Bwlch Khyber]]
*[[Cyflafan ysgol Peshawar]], 16 Rhagfyr 2014
*[[Khyber Pakhtunkhwa]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==