Llangeitho: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg, rhyngwici
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref yng nghanolbarth [[Ceredigion]] yw '''Llangeitho'''. Saif ym mhen uchaf [[Dyffryn Aeron]] ar lan ddwyreiniol [[Afon Aeron]]. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o [[Llanbedr Pont Steffan|Lanbedr Pont Steffan]].
 
Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith [[Gymraeg]], ond cafwyd [[mewnlifomewnfudo|mewnlifiad]] mawr yn y [[1970au]] a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.
 
Mae Llangeitho yn enwog yn [[hanes Cymru]] fel man geni y diwygiwr [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] [[Daniel Rowland]], a aned yno yn [[1713]]. Gwasanethodd fel curad yn [[Nantcwnlle]] a Llangeitho. Cododd [[capel|gapel]] yn Llangeitho yn [[1760]] a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn [[1764]] a'r ail yn [[1814]].