Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur"

dim crynodeb golygu
 
==Gwreiddiau'r Blaid==
Cododd y blaid allan o rwyg yn y [[Plaid Sosialaidd Brydeinig|Blaid Sosialaidd Brydeinig]], yn bennaf oherwydd agweddau tuag at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Ym 1915 ffurfiwyd [[Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol Sosialaidd]] gan y sosialwyr blaenllaw [[Victor Fisher]], [[Alexander M. Thompson]] a [[Robert Blatchford]]. Bwriad y pwyllgor oedd cefnogi ''y syniad tragwyddol o genedligrwydd'' a hyrwyddo ''mesurau sosialaidd yn ymdrech y rhyfel''. <ref>John Callaghan, ''Socialism in Britain'' (1990), p. 74.</ref>
 
Ym 1916, ffurfiodd y pwyllgor [[Cynghrair Gweithwyr Prydain]] a oedd yn disgrifio ei hun fel grŵp ''llafur gwladgarol'' ac yn canolbwyntio ar enyn cefnogaeth i'r rhyfel a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd y Gynghrair yn cael ei ariannu gan yr Arglwydd Milner, ac yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol Llafur megis [[William Abraham]], [[James O'Grady]] a [[Stephen Walsh]]. Nod y Gynghrair oedd herio heddychwyr a oedd am fod yn ymgeiswyr Seneddol [[Y Blaid lafur (DU)|Llafur. Roedd un ar ddeg o'r 38 AS Llafur Seneddol yn rhoi eu cefnogaeth i Gynghrair Gweithwyr Prydain, gan achosi rhwyg yn y Blaid Lafur er bod y mwyafrif wedi aros yn driw i Lafur pan drodd y pwyllgor yn blaid wleidyddol.
Ym 1918 penderfynodd y Blaid Lafur i ymadael a'r Llywodraeth Clymblaid a fu'n llywodraethu ar adeg y Rhyfel, ond fe wrthododd [[George Barnes]], AS Glasgow Blackfriars ac arweinydd y Blaid Lafur i ymadael gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur swyddogol a sefyll fel Llafur y Glymblaid yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Etholiad Cyffredinol 1918]]
 
Er mwyn dangos eu cefnogaeth i Barnes trodd Cynghrair Gweithwyr Prydain i mewn i'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur. Enillodd y grŵp gefnogaeth [[Undeb y Cerddorion]] a rhannau o undebau eraill, gan gynnwys rhai adrannau o [[Ffederasiwn Glowyr Prydain]].<ref>Peter Barberis, John McHugh, Mike Tyldesley entry on British Workers League ''Encyclopedia of British and Irish Political Organizations'' (Continuum International Publishing Group, 2005), p. 274.</ref>
 
Yn etholiad cyffredinol 1918 safodd wyth ar hugain o ymgeiswyr yn enw'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur neu yn enw Llafur y Glymblaid gan gipio deg sedd.