Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Ym 1918 penderfynodd y Blaid Lafur i ymadael a'r Llywodraeth Clymblaid a fu'n llywodraethu ar adeg y Rhyfel, ond fe wrthododd [[George Barnes]], AS Glasgow Blackfriars ac arweinydd y Blaid Lafur i ymadael gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur swyddogol a sefyll fel Llafur y Glymblaid yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Etholiad Cyffredinol 1918]]
 
Er mwyn dangos eu cefnogaeth i Barnes trodd Cynghrair Gweithwyr Prydain i mewn i'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur. Enillodd y grŵp gefnogaeth [[Undeb y Cerddorion]] a rhannau o undebau eraill, gan gynnwys rhai adrannau o [[Ffederasiwn Glowyr Prydain]].<ref>By any other Name LLGC Papurau Cymru arlein Merthyr Pioneer 8 Mehefin 1918 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3999808/ART12] Adalwyd Rhagfyr 21 2014</ref><ref>Peter Barberis, John McHugh, Mike Tyldesley entry on British Workers League ''Encyclopedia of British and Irish Political Organizations'' (Continuum International Publishing Group, 2005), p. 274.</ref>
 
Yn etholiad cyffredinol 1918 safodd wyth ar hugain o ymgeiswyr yn enw'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur neu yn enw Llafur y Glymblaid gan gipio deg sedd.