Alfred Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Alfred Thomas Barwn Pontypridd''' (16 Medi, 1840 - 14 Rhagfyr, 1927) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Alfred Thomas Barwn Pontypridd''' ([[16 Medi]], [[1840]] - [[14 Rhagfyr]], [[1927]]) yn wleidydd [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] Cymreig ac yn [[Aelod Seneddol]] [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)| Dwyrain Morgannwg]]<ref>THOMAS, ALFRED, barwn Pontypridd (1840-1927)Y Bywgraffiadur arlein [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-THOM-ALF-1840.html] adalwyd 20 Rhag 2014</ref>
 
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd Alfred Thomas ym 1840 ym [[Pen-y-lan| Mhen-y-lan]] , [[Caerdydd]], yn fab i Daniel Thomas ymgymerwr.
 
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Weston, ger [[Caerfaddon]].
 
Roedd yn ddibriod.
 
==Gyrfa Gwleidyddol==
 
Daeth Thomas yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Bwrdeistref [[Caerdydd]] ym 1875 a bu'n Maer y Dref ym 1881-1882. Fel Maer chwaraeodd rhan ganolog yn y penderfyniad i leoli [[Prifysgol Caerdydd|Coleg Prifysgol De Cymru]] yng Nghaerdydd, yn hytrach nag [[Abertawe]]. Cafodd ei greu yn Rhyddfreiniwr y Bwrdeistref Caerdydd ym 1887.
 
Safodd Thomas yn etholaeth [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)|Dwyrain Morgannwg]] yn enw'r Blaid Ryddfrydol ym 1885 gan gael ei ethol yn Aelod Seneddol a gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd adeg Etholiad Cyffredinol Mis Ragfyr 1910.
 
Yr oedd Thomas yn aelod cenedlaetholgar o'r Blaid Ryddfrydol. Fe gyflwynodd yn (aflwyddiannus ) gyda chefnogaeth[[Thomas Edward Ellis]] [[Mesur Sefydliadau Gwladol (Cymru)]] i'r senedd ym 1891. BilMesur oedd yn ymofyn Prifysgol i Gymru, Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a Senedd i Gymru.<ref> Hansard NATIONAL INSTITUTIONS (WALES) BILL [http://hansard.millbanksystems.com/commons/1892/feb/10/national-institutions-wales-bill] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref>
 
Roedd yn aelod o [[Cymru Fydd |Gymru Fydd]], ac fe fu yn gadeirydd yr ymgyrch i godi cerflun i [[Evan James ]] a [[James James]] awduron [[Hen Wlad fy Nhadau]]<ref>NATIONAL MEMORIAL TO THE AUTHORS OF "HEN WLAD FY NHADAU" Carmarthen Weekly Reporter 8 Mai 1914 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3584949/ART61] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref>.
 
Cafodd Thomas ei urddo'n farchog ym 1902, a'i ddyrchafu i [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Pontypridd ym 1912]].
Llinell 22 ⟶ 24:
 
Bu farw Arglwydd Pontypridd ym 1927. A gan nad oedd ganddo blant bu farw ei farwniaeth gydag ef.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{dechrau-bocs}}
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
| cyn= ''etholaeth newydd''
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)| Dwyrain Morgannwg]]
| blynyddoedd=[[1885]] – [[1910]]
| ar ôl=[[ Allen Clement Edwards ]]}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{DEFAULTSORT:Thomas, Arthur}
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Genedigaethau 1840]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1927]]
[[Categori:Rhyddfrydiaeth]]
[[Categori:Egin gwleidyddiaeth Cymru]]